Robot gyda siâp y corff dynol yw robot dynoid (term a fathwyd o humanoid robot).
Cânt eu dylunio i ryngweithio ag offer ac amgylcheddau dynol, at ddibenion arbrofol megis astudio cerdded a symud ar ddwy droed, neu at ddibenion eraill. Yn gyffredinol, mae gan robotiaid dynoid dorso, pen, dwy fraich, dwy goes a dwy droed, er y gall rhai robotiaid dynoid ddyblygu rhan o'r corff yn unig, er enghraifft, llaw neu ddwylo, neu o'r canol i'r pen. Mae gan rai robotiaid dynoid hefyd bennau sydd wedi'u cynllunio i efelychu nodweddion wyneb dynol fel llygaid a cheg. Mae'r Android yn ddynoid sydd wedi'i adeiladu i ymdebygu i fodau dynol yn esthetig.
Math | robot deudroed |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tarddodd y cysyniad o robot dynoid mewn llawer o wahanol ddiwylliannau ledled y byd. Mae rhai o'r adroddiadau cynharaf am y syniad o beiriant dynol yn dyddio i'r 4g CC ym Mytholeg Roeg a thestunau crefyddol ac athronyddol amrywiol o Tsieina. Yn ddiweddarach crëwyd prototeipiau ffisegol o ddynoid awtomatig yn y Dwyrain Canol, yr Eidal, Japan a Ffrainc.
Creodd y dewiniaid Gwydion ap Dôn a Math ddynoid benywaidd hardd, o flodau'r derw, banadl ac erwain, i fod yn wraig i Lleu Llaw Gyffes; galwyd hi'n Blodeuwedd. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Gellir edrych ar y weithred hon fel hud a lledrith, neu fel disgrifiad cynnar o gynhyrchu android.[angen ffynhonnell]
Un o'r nofelau ffug-wyddonol yn y Gymraeg sy'n disgrifio 'peiriant yn ddyn a dyn yn beiriant', yw'r Dydd Olaf, a sgwennwyd yn 1967-8 gan Owain Owain.
Creodd duw Groegaidd y gofaint, Hephaestus, sawl dynoid awtomata gwahanol mewn sawl chwedl. Yn yr Iliad gan Homer, creodd Hephaestus forwynion euraidd a'u trwytho â lleisiau tebyg i ddyn i wasanaethu fel offer neu offerynnau siarad. Mae myth Groegaidd arall yn manylu ar sut y creodd Hephaestus awtomaton efydd enfawr o'r enw Talos i amddiffyn ynys Creta rhag goresgynwyr.
Yn y 3g CC, manylodd testun athronyddol Taoaidd o'r enw Liezi, a ysgrifennwyd gan yr athronydd Tsieineaidd Lie Yukou, y syniad o awtomaton dynoid. Mae'r testun yn cynnwys sôn am beiriannydd o'r enw Yan Shi a greodd robot maint dyn ar gyfer pumed brenin Brenhinllin Zhou Tsieineaidd, sef y Brenin Mu. Adeiladwyd y robot yn bennaf o ledr a phren. Yr oedd gallu cerdded, canu, a symud pob rhan o'i chorff.
Yn y 13g, dyluniodd peiriannydd Mwslimaidd o Fesopotamia, sef Ismail al-Jazari ddynoidau amrywiol. Creodd robot-weinyddes a fyddai'n dosbarthu diodydd o gronfa hylif ac yn ymddangos allan o ddrws awtomatig i'w gweini. Defnyddiwyd awtomaton arall a greodd ar gyfer golchi dwylo i ail-lenwi basn â dŵr ar ôl cael ei wagio.
Yn y 1400au, datblygodd Leonardo da Vinci cysyniad robot mecanyddol cymhleth wedi'i orchuddio â siwt o arfwisg, a oedd yn gallu eistedd, sefyll a symud ei freichiau'n annibynnol. Roedd y robot cyfan yn cael ei weithredu gan system o bwlïau a cheblau.
Mae dynoidau bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer ymchwil a hynny o fewn sawl maes gwyddonol. Astudir strwythur ac ymddygiad y corff dynol (biomecaneg) i adeiladu robotiaid dynoid. Ar yr ochr arall, mae'r ymgais i efelychu'r corff dynol yn arwain at well dealltwriaeth ohono. Mae gwybyddiaeth ddynol yn faes astudio sy'n canolbwyntio ar sut mae bodau dynol yn dysgu o wybodaeth synhwyraidd er mwyn caffael sgiliau. Defnyddir y wybodaeth hon i ddatblygu modelau rhifyddol o ymddygiad dynol, ac mae wedi gwella dros amser.
Yn 2024 un o'r dynoidau a ddatblygwyd orau oedd Optimws a grewyd gan Tesla ac oedd yn defnyddio'r un dechnoleg AI a thechnoleg ceir i hunan yrru.
Awgrymwyd y bydd robot wedi'i ddatblygu'n iawn yn gwella bywydau bodau dynol. Gweler trawsddynoliaeth.
Mae thema gyffredin ar gyfer darlunio dynoidau mewn ffuglen wyddonol yn ymwneud â sut y gallant helpu bodau dynol mewn cymdeithas neu'n groes i hyn: yn fygythiad i ddynoliaeth (fel yn y Dydd Olaf). Mae'r thema hon yn ei hanfod yn cwestiynu a yw deallusrwydd artiffisial yn rym da neu ddrwg i ddynolryw. Enghraifft o ddynoid da, sydd o fudd i bobl, yw Commander Data yn Star Trek a C-3PO yn Star Wars. Ar y llaw arall, mae 'r T-800 yn Terminator a Megatron yn Transformers yn ddynoidau drwg, peryglus.
Ceir thema amlwg arall mewn ffuglen wyddonol am ddynoidau (robotiaid dynol) sy'n canolbwyntio ar bersonoliaeth. Mae rhai ffilmiau, yn enwedig Blade Runner a Blade Runner 2049, yn archwilio a ddylai bod synthetig, adeiledig gael ei ystyried yn berson ai peidio. Dyma hefyd prif thema'r nofel Y Dydd Olaf a sgwennwyd yn 1967-8. Yma, mae'r awdur yn archwilio nodweddion dynol fel cariad, ac androidau sy'n anwahanadwy oddi wrth fodau dynol, ond eto nid oes ganddynt yr un hawliau â bodau dynol. Mae'r thema hon i'w gael mewn nofelau a ffilmiau diweddar sy'n annog cydymdeimlad y gynulleidfa tra hefyd yn tanio anesmwythder at y syniad bod robotiaid dynol yn dynwared bodau dynol yn rhy agos.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robot dynoid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.