Planhigyn blodeuol bythol (lluosflwydd) sy'n perthyn i deulu'r Rosaceae ac sy'n tyfu mewn gweirgloddiau gwlyb yw'r erwain (Lladin: Filipendula ulmaria; Saesneg: meadowsweet).
Erwain | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Genws: | Filipendula |
Rhywogaeth: | F. ulmaria |
Enw deuenwol | |
Filipendula ulmaria (L.) Maxim. |
Mae'n blanhigyn brodorol yn y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac fe'i ceir hefyd yng ngogledd America ar ôl iddo gael ei gyflwyno yno a dechrau tyfu yn y gwyllt. Mae enwau eraill arno yn y Gymraeg yn cynnwys chwys Arthur, brenhines y weirglodd, blodau'r mêl, llysiau'r Forwyn, barf y bwch a meddlys.
Mae'n blodeuo ym mis Gorffennaf.
Mae gan y planhigyn le arbennig ym mytholeg Cymru fel un o'r blodau a ddefnyddir gan Math fab Mathonwy a Gwydion i greu Blodeuwedd:
Ac yna y cymerasant hwy blodeu y deri, a blodeu y banadl, a blodau yr erwein, ac o'r rhei hynny, aswyno yr un forwyn decaf a theledicaf a welas dyn eiroed.
Dywedir ei fod yn dda at yr annwyd, diffyg traul, gwrthweithio gwenwyn, ffliw, anhwylder ar yr arennau a'r bledren, llid yr isgroen (cellulitis), diffyg caws a nerfusrwydd. Dywedir hefyd fo ganddo'r gallu i ladd poen, fel asparin, heb effeithio leinin y stumog. Fel llawer o lysiau rhinweddol, y cwbl sydd angen ei wneud ydy berwi'r blodau am ddeg munud; dylid wedyn yfed tair cwpanaid y dydd am bythefnos - cyn brecwast.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Erwain, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.