Mae Rhinog Fach yn fynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd.
Saif fymryn i'r de o Rhinog Fawr ac i'r gogledd o Y Llethr. Fel y rhan fwyaf o'r Rhinogydd, ceir creigiau wedi eu gorchuddio gan rug, sy'n gwneud ei ddringo yn waith caled. Wrth droed Rhinog Fach mae Llyn Hywel. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 565metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 712 metr |
Cyfesurynnau | 52.8239°N 3.9842°W |
Cod OS | SH6648727027 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 148 metr |
Rhiant gopa | Y Llethr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Is-Farilyn, Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”. Uchder y copa o lefel y môr ydy 712 metr (2336 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
I ddringo'r mynydd rhaid anelu am Fwlch Drws Ardudwy, rhwng Rhinog Fach a Rhinog Fawr. Y ffordd hawddaf o'i gyrraedd yw trwy Gwm Nantcol, yn cychwyn o Lanbedr. Gellir parcio ger ffermdy Maesygarnedd, hen gartref John Jones, Maesygarnedd. Gellir hefyd ddilyn llwybr heibio Llyn Hywel ac i ben y bwlch rhwng Rhinog Fach ac Y Llethr. Mae modd hefyd ei ddringo o'r dwyrain, gan gychwyn ychydig i'r de o bentref Trawsfynydd ac anelu am Fwlch Drws Ardudwy o'r cyfeiriad yma, ond mae'n daith llawer hirach.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhinog Fach, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.