Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn y Bi.
Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 6 acer, ychydig i'r dwyrain o Lyn Hywel a llechweddau'r Rhinog Fach ac Y Llethr. Mae ychydig yn is na Llyn Hywel, 1,451 troedfedd uwch lefel y môr.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.818962°N 3.975424°W |
Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno â nentydd eraill i ffurfio Afon Gamlan, sy'n llifo i'r dwyrain trwy Gwm Camlan i ymuno ag Afon Mawddach ger y Ganllwyd. Ceir rhywfaint o frithyll yn y llyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyn y Bi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.