Math o gerddoriaeth roc sy'n rhan o'r isddiwylliant pync ehangach yw pync-roc.
Mae ganddo arddull ffyrnig sy'n cefnogi "diffyg" medr cerddorol, hynny yw, arbrofoliaeth gryf oedd yn adlach i roc celfyddyd. Un o brif nodweddion y gerddoriaeth hon yw'r sŵn a gynhyrchir gan strymio'r gitâr tro ar ôl tro.
Ymhlith y bandiau pync-roc a ddaeth i'r amlwg yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig yn y 1970au a'r 1980au oedd y Ramones, y Sex Pistols, The Clash a The Damned.
Roedd Llygod Ffyrnig o ardal Gwm Tawe y grŵp pync cyntaf i ganu yn Gymraeg. Recordiodd y band un sengl NCB yn 1978 a chwaraewyd ar raglen radio John Peel ar BBC Radio 1 a'i gynnwys ar LP aml-gyfrannog Labels Unlimited - The Second Record Collection - casgliad o recordiau o labeli pync a new wave.. Mae'n debyg taw'r Anhrefn yw'r band pync-roc mwyaf adnabyddus i ganu yn Gymraeg.
Rhestr Wicidata:
# | enw | delwedd | y fan lle cafodd ei ffurfio | categori Comin | genre | label recordio | eitem ar WD |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Feeder | Casnewydd | Feeder (band) | grunge roc amgen roc caled Britpop pync-roc post-grunge | JVC Kenwood Victor Entertainment Roadrunner Records Echo Cooking Vinyl | Q1049555 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pync-roc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.