Mae'r Wyach fawr gopog, Podiceps cristatus, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.
Gwyach fawr gopog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Podicipediformes |
Teulu: | Podicipedidae |
Genws: | Podiceps |
Rhywogaeth: | P. cristatus |
Enw deuenwol | |
Podiceps cristatus (Linnaeus, 1758) |
Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws Ewrop ac Asia yn unrhyw le lle mae llynyoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n aderyn mudol. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf.
Mae tua 46–51 cm o hyd, a 59–73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nofio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd bod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir.
Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr.
Erbyn diwedd y 19g roedd yr Wyach fawr gopog wedi mynd yn aderyn prin iawn ym Mhrydain oherwydd ei bod yn cael ei hela, er mwyn defnyddio plu ei phen i addurno hetiau merched. I amddiffyn y rhywogaeth yma y sefydlwyd yr RSPB cyntaf. Gydag amddiffyniad cyfreithiol, mae niferoedd yr Wyach wedi cynyddu yn sylweddol iawn. Yng Nghymru gellir gweld yr Wyach Fawr Gopog yn nythu ar bron unrhyw lyn o faint gweddol, ac yn yr hydref neu'r gwanwyn mae dros 300 ohonynt yn heidio i Afon Menai ar adegau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyach fawr gopog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.