Mae perfformiwr drag (sydd weithiau'n cael eu galw'n Frenhines Drag; Saesneg: Drag Queen) yn berson sy'n gwisgo, ac fel arfer yn perfformio fel menyw er mwyn creu adloniant i gynulleidfa.
Ceir nifer o wahanol fathau o berfformwyr drag ac maent yn amrywio o berfformwyr proffesiynol sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau i bobl sy'n ei wneud unwaith yn unig. Gall berfformiwr drag amrywio o ran dosbarth a diwylliant a gellir cael amrywiaeth o fewn yr un ddinas hyd yn oed. Er bod tueddiad o gysylltu perfformwyr drag gyda dynion hoyw neu bobl trawsrywiol, mae yna berfformwyr drag o bob rhyw ac o bob rhywioldeb sy'n gwisgo mewn drag am amrywiaeth o resymau.
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Yn gyffredinol, mae perfformwyr drag yn gwisgo mewn dillad menywod, gan or-wneud nodweddion penodol am resymau comig, dramatig neu ddychanol. Mae perfformwyr drag hefyd yn gallu cynnwys Brenin Drag, sef menywod sy'n perfformio fel dynion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Perfformiwr drag, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.