Y cyflwr o fod â nodweddion rhyw neu ryweddol benywaidd a gwrywaidd yw androgynedd neu weithiau gwrfenywdod.
Yn ei ystyr fiolegol mae'n gyfystyr â deurywiaeth fiolegol, hynny yw y deurywiad neu'r hermaffrodit: unigolyn a chanddo organau cenhedlu cwbl ddatblygedig o'r ddau ryw. Mae gan ddeurywiaid nodweddion corfforol sy'n gymysgedd o'r gwryw a'r fenyw.
Enghraifft o'r canlynol | Mynegiant rhywedd, hunaniaeth |
---|---|
Math | sexual diversity |
Yn cynnwys | androgyne, Androgynos |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Yn ôl y seicolegydd, cyfeiria at berson a chanddo nodweddion personol cryf, ond nid o reidrwydd biolegol, a gysylltir â'r ddau ryw. Mae personoliaeth yr unigolyn androgynaidd yn cyfuno benyweidd-dra a gwrywdod: gwydnder ac addfwynder, pendantrwydd a natur fagwrol. Mae unigolion androgynaidd yn debycach o fod yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol na phersonau sy'n cadw at swyddogaethau rhyweddol traddodiadol. Yn sgil dyfodiad ffeministiaeth a'r mudiad hawliau i fenywod, daeth agweddau o ymddygiad androgynaidd yn fwy dderbyniol ac atyniadol nag yn y gorffennol.
Roedd nifer o gymeriadau androgynaidd ym mytholeg Roeg, ac yn aml roeddent yn ymgorffori cyfuniad o nodweddion gwrywaidd a benywaidd dymunol. Weithiau cafodd y rhagweledydd dall Tiresias ei bortreadu'n ddeurywiad. Yn Japan ceir genre cyfan o ffilmiau wedi'i seilio ar hyn, sef Futanari.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Androgynedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.