Siâp seren pum pwynt a dynnwyd â phum llinell syth yw'r pentagram (hefyd: pumongl).
Pentagram rheolaidd | |
---|---|
Pentagram | |
Math | Polygon seren |
Ymylon a fertigau | 5 |
Symbol Schläfli | {5/2} |
Grŵp cymesuredd | D5 (Trefn 10) |
Ongl fewnol (graddau) | 36° |
Mae'r gair 'pentagram yn dod o'r gair Groeg πεντάγραμμος (pentagrammos) neu πεντέγραμμος (pentegrammos) sef "â phum llinell".
Defnyddiwyd pentagramau'n symbolaidd yn yr Hen Roeg ym Mesopotamia, a defnyddir y pentagram hefyd fel symbol Wica, yn debyg i'r defnydd o groes gan Gristnogion, neu Seren Dafydd gan Iddewon. Mae gan y pentagram gydgysylltiadau â dewiniaeth, ac mae llawer o bobl sy'n ymarfer crefyddau Neo-baganaidd yn gwisgo gemwaith sy'n ymgorffori'r symbol. Defnyddiwyd y pentagram gan Gristionogion i gynrychioli pum clwyf yr Iesu, ac mae ganddo gysylltiadau â'r Seiri Rhyddion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pentagram, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.