Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012

Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012, neu Euro 2012 oedd y 14eg tro i UEFA gynnal pencampwriaeth pêl-droed i ddynion.

Cynhaliwyd y bencampwriaeth am y tro cyntaf yng Ngwlad Pwyl a'r Wcráin rhwng 8 Mehefin a 1 Gorffennaf 2012.

Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012
Y Stadiwm Cenedlaethol yn Warsaw, lle cynhelir 5 o'r gemau

Sbaen oedd yn fuddugol gan guro Yr Eidal 4-0 yn y rownd derfynol yn y Stadiwm Olympaidd yn Kiev, Wcráin.

Daeth Sbaen y tîm cyntaf yn hanes i ennill dau Bencampwriaeth Ewropeaidd o'r bron, a'r cyntaf i ennill tri prif bencampwriaeth pêl-droed o'r bron; Euro 2008, Cwpan y Byd 2010 ac Euro 2012.

Dewis lleoliad

Cafwyd pum cais i gynnal y bencampwriaeth gyda Croatia-Hwngari, Groeg, Gwlad Pwyl-Wcráin, Twrci a'r Eidal yn rhoi eu henwau ger bron Uefa.

Ar 8 Tachwedd 2005, lluniwyd rhestr fer o dri chais gan Bwyllgor Gweithredol UEFA gyda cheisiadau Groeg a Thwrci yn cael eu diystyru. Yn dilyn ymweliadau â'r gwledydd oedd ar ôl yn y broses cafwyd pleidlais yn ystod cyfarfod Pwyllgor Gweithredol Uefa yng Nghaerdydd ar 18 Ebrill, 2007 gyda Gwlad Pwyl-Wcráin yn fuddugol ar ôl sicrhau wyth pleidlais, Yr Eidal yn cael pedair pleidlais a Croatia-Hwngari yn methu sicrhau yr un bleidlais.

Gemau rhagbrofol

Roedd 51 o dimau yn cystadlu ar gyfer 14 o lefydd yn y rowndiau terfynol ochr yn ochr â Gwlad Pwyl a'r Wcráin. Rhannwyd y timau i naw grŵp gydag enillwyr pob grŵp yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol ynghyd â'r tîm oedd â'r record orau ar ôl gorffen yn yr ail safle. Cyfarfu'r wyth tîm arall oedd wedi gorffen yn ail yn eu grŵp mewn gemau ail gyfle er mwyn sicrhau'r pedwar tîm olaf fyddai'n cyrraedd Euro 2012.

Timau llwyddiannus

Canlyniadau

Grŵp A

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Y Weriniaeth Tsiec 3 2 0 1 4 5 −1 6
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Groeg 3 1 1 1 3 3 0 4
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Rwsia 3 1 1 1 5 3 +2 4
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Gwlad Pwyl 3 0 2 1 2 3 −1 2

Grŵp B

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  yr Almaen 3 3 0 0 5 2 +3 9
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Portiwgal 3 2 0 1 5 4 +1 6
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Denmarc 3 1 0 2 4 5 −1 3
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  yr Iseldiroedd 3 0 0 3 2 5 −3 0

Grŵp C

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Sbaen 3 2 1 0 6 1 +5 7
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  yr Eidal 3 1 2 0 4 2 +2 5
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Croatia 3 1 1 1 4 3 +1 4
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Gweriniaeth Iwerddon 3 0 0 3 1 9 −8 0

Grŵp D

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Lloegr 3 2 1 0 5 3 +2 7
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Ffrainc 3 1 1 1 3 3 0 4
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Wcráin 3 1 0 2 2 4 −2 3
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012  Sweden 3 1 0 2 5 5 0 3

Rownd yr Wyth Olaf

Rownd gyn-derfynol

Rownd derfynol

Enillwyr Pencampwriaeth Ewrop 2012
Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 
Sbaen
Trydydd teitl

Cyfeiriadau

Tags:

Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 Dewis lleoliadPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 Gemau rhagbrofolPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 CanlyniadauPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 Rownd yr Wyth OlafPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 Rownd gyn-derfynolPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 Rownd derfynolPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 2012 CyfeiriadauPencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop 20121 Gorffennaf20128 MehefinGwlad PwylPêl-droedUEFAWcráin

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Anturiaethau Syr Wynff a PlwmsanMihangelWicidestunFfenolegPerseverance (crwydrwr)MET-ArtNovialRhosllannerchrugogElectronegNapoleon I, ymerawdwr FfraincGeometreg2020auTony ac AlomaSant ap CeredigPont BizkaiaJohn Churchill, Dug 1af MarlboroughTeganau rhywNorthern SoulIn Search of The CastawaysMain PageYsgol Dyffryn AmanCyfathrach Rywiol FronnolIrene PapasSiot dwad wynebEwthanasiaSwydd NorthamptonWcráinSaesnegEconomi Caerdydd2024Steve JobsPlwmAmserTre'r CeiriU-571My Mistress9 EbrillY rhyngrwydAligatorAlien RaidersThe Cheyenne Social ClubPussy Riot1866FfraincHuw ChiswellEconomi AbertaweEwropSwleiman IAmsterdamCaethwasiaethRhyw tra'n sefyllAnna Gabriel i SabatéMorocoEBayCopenhagenISO 3166-1TamilegByfield, Swydd Northampton1792LidarPenelope LivelyWicipedia CymraegUm Crime No Parque PaulistaAmaeth yng NghymruRia JonesPysgota yng Nghymru🡆 More