Patholeg yw'r enw ar y gangen o feddygaeth sy'n ymwneud ag astudio heintiau a sut y'u cynhyrchir er mwyn deall eu hachosion a'u natur.
Mae'n arbenigedd meddygol a datblygodd yn y 19g diolch i waith arbenigwyr fel yr Almaenwr Rudolf Virchow (1891-1902), a ddangosodd fod cysylltiad rhwng newid yn srwythur celloedd a meinwe a heintiau neilltuol.
Ychwanegwyd at ein gwybodaeth am achosion bacteriaidd heintiau ac afiechydon gan waith patholegwyr eraill fel Louis Pasteur. yn yr 20g datblygodd ddwy brif gangen patholeg, sef patholeg glinigol a patholeg gemegol.
Erbyn heddiw mae patholeg yn cynnwys astudio cemeg gwaed, iwrin, faeces a meinwe heintiedig - trwy biopsi neu awtopsi - gyda chymorth technoleg fel peiriannau pelydr-X ac ati.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Patholeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.