Mae Parc Cwmdonkin yn barc dinesig sydd wedi'i leoli yn ardal yr Uplands o Abertawe, de Cymru.
Ceir bandstand, ardal chwarae i blant, gerddi dŵr, cyrtiau tenis a lawnt fowlio yno.
Dechreuwyd defnyddio'r tir hwn gan y cyhoedd pan grëwyd cronfa ddŵr Comdonkin tua 1850 gan William Henry Smith a'r Swansea Waterworks Company. Dengys cofnodion Bwrdeistref Abertawe a phapur newydd y Cambrian fod arian cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cymryd drosodd a rhedeg “the destructive pit at Cwmdonkin, euphemistically called a reservoir”..
Gwnaed yr awgrym cyntaf i dirweddu'r tir o amgylch y cronfa ddŵr ym 1853 ond dim ond ym 1874 y prynodd Cyngor Abertawe dau gae wrth Mr James Walters am £4650 er mwyn creu'r parc. Agorwyd y parc ar y 24ain o Orffennaf, 1874. Bu peth beirniadaeth fod y parc mewn ardal gyfoethog, dosbarth canol o'r dref; arweiniodd hyn at yr "Ymgyrch Mannau agored" o dan arweiniad William Thomas o Lan a ymgyrchodd am fwy o barciau yn yr ardaloedd tlotach, dosbarth gweithiol.
Llenwyd Cronfa ddŵr Cwmdonkin gyda rwbel yn y 1950au a dirweddu i fod yn ardal i blant chwarae.
Magwyd y bardd Dylan Thomas yn 5, Cwmdonkin Drive, ger y parc. Roedd y parc yn ffynhonnell gref o ysbrydoliaeth iddo ac ymddengys yn ei waith, gan gynnwys ei ddarllediadau radio Return Journey a Reminiscences of Childhood, ac yn fwyaf enwog yn ei gerdd The hunchback in the park.
Rhoddwyd cofeb i Thomas yn y parc ym 1963 sy'n cynnwys llinellau o'r gerdd “Fern Hill”.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Parc Cwmdonkin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.