Brenin Bryneich oedd Oswy (c.
612 – 15 Chwefror 670) (neu Oswiu, Oswig). Lladdwyd ei dad Æthelfrith o Frynaich mewn brwydr yn erbyn Rædwald, Brenin Dwyrain Anglia ac Edwin of Deira ar lan 'afon Idle' yn 616. Bu'n alltud, gyda'i frodyr, nes y bu farw Edwin yn 633.
Oswy | |
---|---|
Ganwyd | 612 |
Bu farw | 15 Chwefror 670 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | brenin Northumbria, brenin Brynaich, brenin Deifr, brenin Deifr, brenin Deifr |
Tad | Æthelfrith o Northumbria |
Mam | Acha of Deira |
Priod | Eanflæd, Rhiainfellt |
Partner | Fín |
Plant | Aldfrith, Alhfrith of Deira, Ælfwine of Deira, Ecgfrith of Northumbria, Ælfflæd of Whitby, Osthryth, Alhflæd |
Llinach | Leodwaldings |
Yn dilyn marwolaeth ei frawd Oswallt, brenin Northumbria (a roddodd ei enw i Groesoswallt) a laddwyd gan Penda a gwyr Gwynedd ym Mrwydr Maes Cogwy (Saesneg: Battle of Maserfield), yn fwy na thebyg ar 5 Awst 641, fe goronwyd Oswy yn frenin Brynaich. Tawel oedd ei hanes am y ddegfawd nesaf hyd nes i'r Brenin Penda, yn 655, ymosod ar Frynaich. Gyda chymorth gwŷr Gwynedd, lladdwyd Penda ym Mrwydr Maes Gai (neu Frwydr Gwinwaed). Sefydlodd ei hun yn frenin ar Fersia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Oswy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.