Cyfrol o storïau byrion gan y llenor Kate Roberts yw O Gors y Bryniau.
Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1925. Hon oedd y gyfrol gyntaf i Kate Roberts gyhoeddi dan ei henw ei hun (cyhoeddasai ddrama dan y ffugenw 'Margaret Price' yn 1923).
Ceir naw stori fer yn y gyfrol: 'Y Man Geni', 'Prentisiad Huw', 'Hiraeth', 'Yr Athronydd', 'Newid Byd', 'Y Llythyr', 'Pryfocio', 'Y Wraig Weddw', a 'Henaint'. Merch ifanc 23 oed oedd Kate pan ysgrifennodd y storïau hyn ac mae ffresni a dychymyg ieuenctid yn perthyn iddyn nhw. Maen nhw'n agosach i'r traddodiad gwerinol lleol, i ryw raddau, na'i gwaith mwy caboledig diweddarach. Cyflwynodd yr awdures y gyfrol 'i goffadwriaeth Richard Hughes Williams' (Dic Tryfan), meistr arall ar y stori fer o'r un ardal.
Llyfrau Kate Roberts | |
---|---|
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article O Gors y Bryniau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.