Nofel fer gan Kate Roberts yw Deian a Loli, a gyhoeddwyd yn 1927.
Dyma'r ail lyfr gan yr awdures i gael ei gyhoeddi, yn dilyn y gyfrol o straeon byrion O Gors y Bryniau (1925). Cyfeirir ato weithiau fel llyfr plant, ond stori am blant ydyw, yn hytrach nag un ar gyfer plant.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Mae'r nofel yn darlunio'r berthynas rhwng dau efaill, mab a merch, sy'n glos ill dau ond yn meddu ar gymeriadau gwahanol iawn. Mae'r nofel yn dilyn eu datblygiad emosiynol o'u plentyndod cynnar hyd at adael yr ysgol elfennol a gorfod dechrau wynebu bywyd fel oedolion. Lleolir y stori mewn ardal chwarelyddol dychmygol sy'n seiliedig ar fro gogledd Arfon.
Mae Laura Jones, pedwerydd llyfr Kate Roberts, yn ddilyniant i'r nofel. Mae Laura Jones yn gorffen mewn gwagle, fel petai, sy'n awgrymu y bwriadai'r awdures ysgrifennu dilyniant arall, ond ni chafwyd un.
Llyfrau Kate Roberts | |
---|---|
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Deian a Loli, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.