Necla Kelek

Awdures o Dwrci a'r Almaen yw Necla Kelek (ganwyd 31 Rhagfyr 1957) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel cymdeithasegydd ac awdur.

Necla Kelek
Necla Kelek
Ganwyd31 Rhagfyr 1957 Edit this on Wikidata
Istanbul Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Twrci Twrci
Galwedigaethcymdeithasegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Geschwister-Scholl, Gwobr Rhyddid (Sefydliad Friedrich Naumann) Edit this on Wikidata

Bywyd

Ganwyd Necla Kelek yn Nhwrci ond ymfudodd y teulu i'r Almaen pan oedd yn 11 oed, yn 1968. Cafodd ei magu ar aelwyd secwilar yn Istanbul, y trydydd o dri phlentyn, ond fe wnaeth ei rhieni droi at grefydd pan oeddent yn yr Almaen. Achosodd ei magwraeth lem, geidwadol sawl ffrae rhyngddi hi a'i rhieni, nes i Kelek ymddieithrio oddi wrthynt, ac iddynt hwythau ei diarddel o'u teulu gan nad oeddent am ei gweld yn dilyn gyrfa annibynnol. Bu'n lladmerydd dros hawliau'r unigolyn ac mae'n ymwrthod a gorthrwm ar fechgyn a merched mewn teuluoedd Islamaidd, gan ei alw'n 'oddefgarwch camddealledig'. Mae wedi cael ei beirniadu dro ar ôl tro gan y Wasg yn Nhwrci. Heddiw, mae galw mawr ar Kelek fel un sy'n arbenigo ar fater diwylliant Islamaidd yn y byd Gorllewinol. Yn ei chyhoeddiad, Die verlorenen Söhne (Y Meibion Colledig, 2006), ei thema ganolog yw dylanwad Islam ar y teulu bach. Mae'r llyfr yn seiliedig ar brosiect ymchwil Kelek ar bwnc "cymdeithas gyfochrog" yn yr Evangelischen Fachhochschule für Sozialpädagogik yn Hamburg. Arweinodd ei gwaith ymchwil ar gymdeithaseg teulu at nifer o ddadleuon yn y papurau newydd, ac iddi hithau ddwyn cyhuddiadau yn erbyn y wasg o gynrychioli'r rhith o integreiddiad ymfudwyr Mwslemaidd.

Addysg a gyrfa

Hyfforddodd Kelek fel drafftsmon peirianyddol yn y lle cyntaf. Yn ddiweddarach astudiodd economeg a chymdeithaseg yn Hambwrg. Gweithiodd mewn canolfan deithio Dwrcaidd yn Hamburg ac mewn swyddfa beirianyddol yn Wiesbaden. Derbyniodd Necla Kelek ei doethuriaeth am ei hymchwiliadau i grefyddolder Islamaidd a'i bwysigrwydd i blant ysgol o gefndir Twrcaidd; ymddangosodd hwn ar ffurf llyfr yn 2002 o dan y teitl Islam im Alltag (Islam mewn Bywyd Bob Dydd). Rhoddai ddarlithoedd ar gymdeithaseg ymfudo yn yr Evangelische Fachhochschule für Sozialpädagogik (Sefydliad Protestanaidd ar gyfer Addysg Gymdeithasol) yn Hamburg o 1999 hyd 2004. Roedd Kelek hefyd yn aelod o gyngor ymghynghorol gwyddonol y Giordano Bruno Stiftung (sefydliad er cefnogi dyneiddiaeth esblygol) hyd at 16 Mai 2007. Mae'n parhau i roi cyngor i awdurdodau cyfiawnder Hambwrg ynghylch y modd y caiff carcharorion Mwslemaidd Twrcaidd eu trin. Mae'n aelod pahaol o'r Gynhadledd Fwslemaidd a benodwyd gan lywodraeth ffederal yr Almaen, ac mae'n awdur ar ei liwt ei hun ar gyfer y cylchgrawn i ferched, Emma, ynghyd â nifer o bapurau dyddiol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, yn cynnwys Die Fremde Braut a ddaeth yn un o'r gwerthwyr gorau ac a dderbyniodd ganmoliaeth yn gyffredinol, hyd yn oed gan rai oedd yn barod i'w beirniadu.

Cyfeiriadau

Tags:

195731 RhagfyrAlmaenAwdurCymdeithasegyddTwrci

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Eagle EyeR (cyfrifiadureg)MilwaukeeMarianne NorthAberteifiRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd Iwerddon723Tŵr LlundainRowan AtkinsonAaliyah69 (safle rhyw)Llywelyn ap GruffuddGleidr (awyren)Boerne, TexasGruffudd ab yr Ynad CochOmaha, NebraskaCalifforniaValentine PenroseThe InvisibleMamalWild CountryDavid Ben-GurionIl Medico... La StudentessaYr AifftCyrch Llif al-Aqsa1528GwyddoniaethThe Squaw ManCreigiauFfraincMoesegPenbedwAbacwsJohn Evans (Eglwysbach)Iau (planed)Gogledd MacedoniaRheolaeth awdurdodIeithoedd IranaiddWaltham, MassachusettsDirwasgiad Mawr 2008-2012365 DyddCalon Ynysoedd Erch NeolithigRhif anghymarebol27 MawrthBukkakeCasinoFfilmNoaAdnabyddwr gwrthrychau digidolRheonllys mawr BrasilMeddygon MyddfaiAngharad MairTîm pêl-droed cenedlaethol RwsiaSeren Goch BelgrâdCyfathrach rywiolDenmarcAtmosffer y DdaearDewi LlwydOasisNoson o FarrugSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigPrifysgol RhydychenImperialaeth NewyddCarles PuigdemontRicordati Di MeAbertaweRobin Williams (actor)JapanegDifferuPeiriant WaybackDydd Iau CablydThe Jam🡆 More