Nagaland

Mae Nagaland neu Wlad y Nagas yn dalaith ym mryniau coediog gogledd-ddwyrain eithaf India.

Mae'n ffinio â thaleithiau Assam i'r gorllewin, Arunachal Pradesh a rhan o Assam i'r gogledd, gwlad Myanmar i'r dwyrain a thalaith Manipur i'r de. Kohima yw prifddinas Nagaland, a Dimapur yw'r ddinas fwyaf. Gyda phoblogaeth o 1,988,636, (2001) ac arwynebedd tir o 16,579 km² yn unig mae'n un o daleithiau lleiaf India. Cafodd ei sefydlu fel talaith yn 1963.

Nagaland
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasKohima Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,978,502 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Rhagfyr 1963 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNeiphiu Rio Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd16,579 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArunachal Pradesh, Assam, Manipur Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26°N 95°E Edit this on Wikidata
IN-NL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolNagaland Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholNagaland Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethPadmanabha Acharya Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Nagaland Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNeiphiu Rio Edit this on Wikidata

Mae'r dalaith wedi dioddef o ansefydlogrwydd gwleidyddol ers degawdau ac mae'n anodd cael caniatad i fynd yno. Ers i India ennill eu hannibyniaeth mae galwadau am annibyniaeth i Nagaland wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith sydd wedi gweld lefelau uchel o drais ar adegau.

Ar un adeg bu'r Naga yn adnabyddus fel helwyr pennau. Mae'r 16 o lwythau yn cynnwys yr Angamis, Rengmas, Aos, Konyaks, Wanchus, Semas a'r Lothas. Roedd ganddynt grefydd animistaidd cyn i'r cenhadon cyntaf gyrraedd o'r Gorllewin. Erbyn heddiw mae dros 90% o'r Nagas yn Gristnogion a Saesneg yw iaith swyddogol y dalaith, er bod nifer o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad yn ogystal.

Daearyddiaeth a hinsawdd

Talaith fynyddig yw Nagaland. Mae Bryniau Naga yn codi o ddyffryn Afon Brahmaputra yn Assam i tua 2,000 troedfedd ac yna'n codi'n graddol uwch i'r de-ddwyrain, hyd at 6,000 troedfedd. Mynydd Saramati, 12,552 troedfedd uwch lefel y môr, yw copa uchaf y dalaith - yma mae Bryniau Naga Hills yn ymdoddi i Gadwyn Patkai dros y ffin yn Myanmar. Mae nifer o afonydd, yn cynnwys afonydd Doyang a Dhiku yn y gogledd, Afon Barak yn y de-orllewin ac Afon Chindwin (sy'n llifo o Fyanmar) yn y de-ddwyrain, yn llifo ar draws y dalaith.

Mae gan Nagaland flora a fauna cyfoethog. Mae tua 15% o Nagaland yn orchuddiedig gan coedwigoedd trofaol ac is-drofaol bytholwyrdd - yn cynnwys palmwydd, bambŵ a rattan ynghyd â fforestydd mahogani. Yn yr ardaloedd coediog ceir high nifer o anifeiliaid fel cŵn gwyllt, pangolins, porciwpeins, eliffantod, llewpardiaid, eirth, mwncïod, sambar, ceirw, ychen a byffalos. Mae'r Hornbill Mawr Indiaid yn un o'r adar mwyaf enwog o'r dalaith.

Hinsawdd monsŵn sydd gan Nagaland, gyda lefel uchel o leithder. Ceir rhwng 70-100 troedfedd o law y flwyddyn, gyda rhan helaeth yn disgyn ym mis Mai. Ceir tymheroedd rhwng 70 i 104 gradd ffahrenheit. Yn y gaeaf ceir rhywfaint o farrug yn yr ucheldiroedd.

Nagaland 
Lleoliad Nagaland yn India
Nagaland 
Merched Naga yn eu gwisg draddodiadol

Cyfeiriadau

Dolenni allanol


Nagaland 
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • DelhiJammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry

Tags:

1963Arunachal PradeshAssamIndiaManipurMyanmarTaleithiau a thiriogaethau India

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

John Bowen JonesGorgiasElectronegGweinlyfuAnwythiant electromagnetigBanc LloegrRhyw diogelSbermHenry LloydWiciadurTomwelltEmyr DanielEdward Tegla DaviesMulherGwyddbwyllComin WikimediaJim Parc NestIndonesiaFfenolegWassily KandinskyPsychomaniaEsblygiadBitcoin23 MehefinGemau Olympaidd yr Haf 2020Walking TallFfrangegHTMLLene Theil SkovgaardSystème universitaire de documentationCefnforErrenteria1584Ysgol Rhyd y LlanAmgylcheddY Cenhedloedd UnedigCordogTaj MahalPysgota yng NghymruCyngres yr Undebau LlafurCelyn JonesEagle EyeEmily TuckerfietnamYr wyddor GymraegPapy Fait De La RésistanceWuthering HeightsSan FranciscoZulfiqar Ali BhuttoVin DieselY CarwrXHamster2020HalogenYsgol Gynradd Gymraeg BryntafDagestanRhywedd anneuaiddGigafactory TecsasKatwoman XxxRwsiaTecwyn RobertsYnysoedd y FalklandsSophie DeeMark HughesPrwsia🡆 More