Un o 29 talaith India yw Telangana, a leolir yn ne'r wlad.
Mae ganddi arwynebedd o 111,840 km sg. (44,340 milltir sg.) a phoblogaeth o 35,193,978 (cyfrifiad 2011 )., sy'n golygu mai hi yw'r ddeuddegfed dalaith fwyaf yn India o ran ei maint a'i phoblogaeth. Mae ei dinasoedd pwysicaf yn cynnwys Hyderabad, Warangal, Nizamabad, Khammam a Karimnagar. Mae'n ffinio ar daleithiau Maharashtra i'r gogledd a'r gogledd-orllewin, Chhattisgarh i'r gogledd, Karnataka i'r gorllewin ac Andhra Pradesh i'r dwyrain a'r de.
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | tri, linga |
Prifddinas | Hyderabad |
Poblogaeth | 35,193,978 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Jaya Jaya he Telangana |
Pennaeth llywodraeth | Revanth Reddy |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Telwgw, Wrdw |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | South India |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 112,077 km² |
Yn ffinio gyda | Maharashtra, Andhra Pradesh, Karnataka, Chhattisgarh |
Cyfesurynnau | 17.99°N 79.59°E |
Cod post | 50 |
IN-TS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Telangana |
Corff deddfwriaethol | Legislature of Telangana |
Pennaeth y wladwriaeth | Tamilisai Soundararajan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Telangana |
Pennaeth y Llywodraeth | Revanth Reddy |
Cafodd Telangana ei hunaniaeth fel yr ardal Delwgw yn nhalaith dywysogaidd Hyderabad, dan reolaeth Nizam Hyderabad, gan ymuno ag Undeb India ym 1948. Ym 1956, diddymwyd talaith Hyderabad fel rhan o ddeddf ad-drefnu'r taleithiau yn ôl eu hieithoedd a chyfunwyd Telangana â'r gyn-dalaith Andhra er mwyn creu Andhra Pradesh. Yn dilyn mudiad i ymwahanu, daeth Telangana yn dalaith ar wahân ar 2 Mehefin 2014. Hyderabad fydd prifddinas Telangana ac Andhra Pradesh ar y cyd am gyfnod o ddim mwy na deg mlynedd.[6]
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Telangana, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.