Mileniwm yw'r term a ddefnyddir am gyfnod o fil o flynyddoedd; daw o'r Lladin mille (mil) ac annum (blwyddyn).
Fel rheol, mae'n cyfeirio at gyfnod penodol mewn calendr arbennig; er enghraifft cafodd Stadiwm y Mileniwm ei enw oherwydd ei fod wedi ei adeiladu ar drothwy'r trydydd mileniwm OC.
Tua'r cyfnod yma, bu dadlau a oedd y mileniwm yn dechrau ar 1 Ionawr 2000 ynteu ar 1 Ionawr 2001. Ar 1 Ionawr 2000 y cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r dathliadau. Y ddadl yn erbyn dathlu ar y dyddiad yma yw nad oes mewn gwirionedd flwyddyn 0 yng [[Calendr Gregori|Nghalendr Gregori].
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mileniwm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.