Awdur o Ffrainc oedd Michel Eyquem de Montaigne (28 Chwefror 1533 – 13 Medi 1592).
Ei waith enwocaf yw'r Essais ('Traethodau'), cyfres hir o fyfyrdodau, mewn tair cyfrol, sy'n ymdreiddio i natur y meddwl dynol ac yn rhoi portread cofiadwy o'r awdur ei hun dros y blynyddoedd. Daethant yn boblogaidd iawn a chyhoeddwyd dros gant o argraffiadau. Ar sawl ystyr, yr Essais oedd sail blodeuo athroniaeth yn Ffrainc yn yr 17g a arweiniodd yn ei dro at Oleuedigaeth y 18g.
Michel de Montaigne | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1533 Saint-Michel-de-Montaigne |
Bu farw | 13 Medi 1592 Saint-Michel-de-Montaigne |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd, cyfreithegwr, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, gwleidydd, bardd-gyfreithiwr, moesolwr Ffrengig, ysgrifennwr |
Swydd | Maer Bordeaux |
Adnabyddus am | Essays |
Tad | Pierre Eyquem de Montaigne |
Priod | Françoise de La Chassaigne |
Perthnasau | Jean de Ségur |
llofnod | |
Cafodd ei eni yn y château de Montaigne yn Périgord, yn fab i Pierre Eyquem, maer Bordeaux, Aquitaine. Cyfaill y bardd Étienne de la Boétie oedd ef. Bu farw Boétie yn 1563 a phriododd Montaigne ei weddw yn 1565.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Michel de Montaigne, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.