Ideoleg economaidd yw mercantiliaeth sydd yn ceisio cynyddu masnach er buddiannau'r wlad.
Mae'n galw ar y llywodraeth i weithredu polisïau a rheoliadau er mantais yn nhermau'r cydbwysedd masnach, ar draul gwledydd eraill. Cefnogir y diwydiannau cynradd (amaeth a mwyngloddio) ac eilaidd (gweithgynhyrchu) i gynnal economi hunan-gynhaliol ac i greu gormodedd o nwyddau i'w hallforio. Ymdrechir i beidio â dibynnu ar fewnforion, oni bai am y pethau na ellir eu canfod neu eu cynhyrchu yn fewnwladol. Trwy hynny, y nod yw cynyddu cronfeydd ariannol y wlad a sicrhau arian cyfred cryf.
Bu mercantiliaeth ar ei hanterth yn Ewrop o'r 16g hyd y 18g, ac yn hanesyddol bu'n anelu at gynyddu'r cronfeydd aur ac arian yn y trysorlys.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mercantiliaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.