Magnus Bäckstedt

Seiclwr ffordd proffesiynol o Sweden ydy Magnus Bäckstedt (ganwyd 30 Ionawr 1975 yn Linköping, Östergötland).

Mae'n reidio dros dîm Liquigas. Mae Magnus wedi ennill y llysenw 'Magnus Maximus' (Cymraeg: Magnus Mawr) gan ei fod yn 193 centimetr o daldra â phwysau o 94 cilogram, ef yw un o'r seiclwyr mwyaf ym myd seiclo proffesiynol. Dechreuodd ei yrfa proffesiynol gan reidio i dîm Collstrop yn 1996, cyn symyd ymlaen i dîm Palmans yn 1997. Wedi newid i dîm GAN, yn 1998, dechreuodd lwyddiant proffesiynol Bäckstedt gyda 7fed safle yn ras Paris-Roubaix a buddugoliaeth ar Gam 19 y Tour de France rhwng Chaux-de-Fonds a Autun. Ailenwyd GAN yn Crédit Agricole ar ddechrau tymor rasio 1999 a chariodd Magnus ymlaen i fod yn aelod o'r tîm tan 2001, heb ail-adrodd ei lwyddiant o 1998.

Magnus Bäckstedt
Magnus Bäckstedt
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMagnus Bäckstedt
LlysenwMagnus Maximus
Dyddiad geni30 Ionawr 1975
Taldra1.93m
Pwysau94kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a weithiau Trac
RôlReidiwr
Math seiclwrArbenigwr y Clasuron
Tîm(au) Proffesiynol
1996–1997
1998–2001
2002–2003
2004
2005–
Collstrop-Palmans
Crédit Agricole
Team Fakta
Alessio-Bianchi
Liquigas
Prif gampau
Paris-Roubaix, 2004
Cam 1, Tour de France, 2005
Golygwyd ddiwethaf ar
19 Medi, 2007

Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm Team Fakta, ef oedd y reidiwr cryfaf yn y tîm yn nhymor 2003. Wedi i dîm Team Fakta ddod i ben, symudodd i dîm Alessio-Bianchi a dychwelodd i lwyddiant yn ras Paris-Roubaix 2004. Symudodd i dîm Liquigas-Bianchi yn 2005, a bu'n ail safle ar Gam 7 y Tour de France, o Lunéville i Karlsruhe.

Bydd Bäckstedt yn reidio yn nhîm Team Slipstream yn nhymor 2008.

Mae Magnus yn briod i'r seiclwraig Cymreig, Megan Hughes ac mae ganddynt ddau o blant. Ganed ei ferch hynaf, Elynor Megan Bäckstedt yn Ionawr 2002, a Zoe Jane Bäckstedt yn Nhachwedd 2004. Fel seiclwr proffesiynol mae Magnus wedi byw mewn sawl gwlad. Bu'n byw yn Zulte, Gwlad Belg yn 2003. Erbyn heddiw, mae'n byw yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, ac yn ôl y BBC, nid yw'r siwr os mai Swedwr neu Gymro ydyw bellach ac roedd yn ystyried cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad dros Gymru.

Canlyniadau

    1996
    1af Boland Bank Tour
      1af 2 Gam o'r Boland Bank Tour
    2il GP D'Isbergues
    1997
    1af GP D'Isbergues
    1998
    1af Cam 19, Tour de France
    1af 1 Cam o'r Tour of Sweden
    1af Cystadleuaeth Sbrint Four days of Dunkirk
    2il Postgiro
      1af Cam 4B, Postgiro
    2000
    2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
    2002
    Magnus Bäckstedt  Pencampwr Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
    1af GP Fayt le Franc
    2003
    Magnus Bäckstedt  Pencampwr Cenedlaethol Treial Amser, Sweden
    1af Ctstadleuaeth 'Intergiro' Giro d'Italia
    2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
    2il Nokere-Koerse
    2il GP d'Ouverture la Marseillaise
    2004
    1af Paris-Roubaix
    2il Gent-Wevelgem
    2il CSC Classic
    2005
    2il Cam 7, Tour de France
    2007
    Magnus Bäckstedt  Pencampwr Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
    Magnus Bäckstedt  Pencampwr Cenedlaethol Treial Amser, Sweden

Dolenni Allanol

Cyfeiriadau

Tags:

19751996199719981999200130 IonawrAutunCentimetrCilogramCrédit AgricoleCymraegLinköpingSwedenTour de FranceÖstergötland

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Scotts Bluff County, NebraskaHTMLMargaret BarnardButler County, OhioSiot dwadIsabel RawsthorneAllen County, IndianaSomething in The WaterStanley County, De DakotaBukkakeMari GwilymMetaffisegWassily KandinskyToo Colourful For The LeagueGwlad y BasgBacteriaDiwylliantYr Ail Ryfel BydSandusky County, OhioEwropDesha County, ArkansasChicot County, ArkansasYr AntarctigOrgan (anatomeg)Y Forwyn Fair1680Clinton County, OhioCymhariaethFaulkner County, ArkansasFfraincJefferson County, NebraskaFeakleLawrence County, MissouriMedina County, Ohio1572Ludwig van BeethovenGanglionGorbysgotaWashington (talaith)AnifailMathemategColumbiana County, OhioMynyddoedd yr AtlasCairoChristel PollAdams County, OhioMuskingum County, OhioHocking County, OhioInstagramJohnson County, NebraskaPen-y-bont ar Ogwr (sir)LlundainWashington, D.C.Ieithoedd CeltaiddTheodore RooseveltCascading Style SheetsSwffïaethJoe BidenMaes Awyr KeflavíkTwo For The MoneySiot dwad wynebEdward BainesBalcanauDinaLloegrYr Undeb SofietaiddCharmion Von WiegandJackson County, ArkansasFfesantWicipediaRhufain🡆 More