Llyn yng nghanolbarth Affrica yw Llyn Tanganica.
Ef yw'r llyn ail-fwyaf yn Affrica o ran arwynebedd, 32,900 km², ond y dyfnaf a'r un sy'n dal mwyaf o ddŵr. Mae'n 1,470 m o ddyfnder yn y man dyfnaf; dim ond Llyn Baikal yn Siberia sy'n ddyfnach ac yn dal mwy o ddŵr ymhlith llynnoedd dŵr croyw y byd.
Rhennir y llyn rhwng pedair gwlad: Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tansanïa a Sambia. Llifa Afon Lukuga o'r llyn i ymuno ag Afon Congo. Yr afonydd mwyaf sy'n llifo i mewn iddo yw Afon Ruzizi ac Afon Malagarasi.
Ceir tua 250 rhywogaeth o bysgod cichlid yn y llyn, a tua 150 o rywogaethau eraill o bysgod. Mae pysgota yn ddiwydiant pwysig yma.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyn Tanganica, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.