Gwladwriaeth yn Nwyrain Affrica oedd Tanganica a enillodd annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig ar 9 Rhagfyr 1961 dan statws un o deyrnasoedd y Gymanwlad.
Ynghynt yr oedd dan reolaeth Brydeinig fel Tiriogaeth Tanganica, sef tiriogaeth ymddiriedol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1961 a mandad Cynghrair y Cenhedloedd o 1922 i 1946, a chyn hynny yr oedd yn wladfa Almaenig. Daeth yn weriniaeth ar 9 Rhagfyr 1962, gan aros yn aelod o'r Gymanwlad. Unodd Tanganica â Gweriniaeth Pobl Sansibar a Pemba ar 26 Ebrill 1964 i ffurfio Gweriniaeth Unedig Tanganica a Sansibar, a elwir heddiw yn Weriniaeth Unedig Tansanïa.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Enwyd ar ôl | Llyn Tanganica |
Prifddinas | Dar es Salaam |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Arian | East African shilling, rupee Dwyrain Affrica |
Julius Nyerere oedd Prif Weinidog Tanganica yn ystod ei blwyddyn gyntaf o annibyniaeth, ac yna'n Arlywydd y wlad pan ddaeth yn weriniaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tanganica, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.