Grŵp o fwrdeistrefi Llundain sy'n ffurfio canol Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Llundain Fewnol (Saesneg: Inner London).
Mae'r ardal hon wedi'i hamgylchynu gan Llundain Allanol. Defnyddiwyd yr enw Inner London i ddynodi ardal llywodraeth leol rhwng 1855 a 1965 yn bennaf fel Sir Llundain neu'n gynharach fel y "Metropolitan Board of Works Area". Bellach mae ganddo ddau ddiffiniad cyffredin.
Math | NUTS 2 statistical territorial entity of the United Kingdom, grŵp |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain Fawr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 319 km² |
Cyfesurynnau | 51.5084°N 0.1254°W |
Y cyntaf yw'r diffiniad statudol a amlinellir yn Deddf Llywodraeth Llundain 1963, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1965, yn cynnwys y deuddeg bwrdeistref ganlynol; mae hyn bron yr un peth â Sir Llundain a gafodd ei diddymu ar yr un pryd:
Yr ail yw'r diffiniad a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynnwys y deuddeg bwrdeistref a restrir uchod, ac eithrio Greenwich, ond hefyd yn cynnwys Haringey a Newham yn ogystal â Dinas Llundain, nad yw'n fwrdeistref, a bod yn fanwl gywir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llundain Fewnol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.