Mae'r linell amser ganlynol wedi'i seilio ar y damcaniaethau a oedd yn dderbyniol yn 2016, ac yn dilyn trefn gronolegol esblygiad bywyd ar y Ddaear.
Mewn bywydeg, mae esblygiad yn digwydd ar draws nifer o genedlaethau o fewn genynnau rhywogaethau. Yn ei dro, mae esblygiad wedi creu cyfoeth yr amrywiaeth, a hynny ym mhob lefel biolegol: o'r deyrnasoedd i rywogaethau ac organebau unigol, ac ymhellach - i'r moleciwlau a'r protinau oddi fewn iddynt. Mae'r tebygrwydd rhwng pob un o'r rhain yn brawf iddynt oll darddu o'r un hynafiad; o'r hynafiad hwn y daeth pob rhywogaeth (boed yn fyw heddiw neu wedi'i ddifodi, gan addasu drwy'r broses a elwir yn 'esblygiad'. Mae dros 99% o'r holl rywogaethau (dros 5 biliwn ohonynt) sydd wedi byw ar y blaned hon ers iddi gael ei chreu, bellach, wedi'u difodi. Amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn ac 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw, gyda tua 1.2 miliwn ohonynt wedi'u cofnodi a 86 heb eu cofnodi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llinell amser esblygiad bywyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.