Cerddor a chyfansoddwr Cymreig oedd John Parry neu Bardd Alaw (18 Chwefror, 1776 – 8 Ebrill, 1851).
Yng Nghymru, fel "Bardd Alaw", roedd yn adnabyddus fel telynor. Cyhoeddodd sawl cyfrol am gerddoriaeth Cymru.
John Parry | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1776 Dinbych |
Bu farw | 8 Ebrill 1851 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Arddull | opera |
Plant | John Orlando Parry |
Ganed John Parry yn nhref Dinbych yn 1776. Dywedir mai ennill am ganu'r delyn mewn eisteddfod leol yn yr Wyddgrug a fu dechrau ei yrfa gerddorol broffesiynol. Arweiniodd fand Milisia Sir Ddinbych am gyfnod. Yn 1807 symudodd i Lundain lle ganwyd ei fab y diddanwr John Orlando Parry. Daeth yn adnabyddus fel meistr ar ganu'r flageolet dwbl. Yn 1809 dechreuodd gyfansoddi a chyhoeddi darnau cerddorol i'r delyn a'r piano ac offerynnau eraill. Fe'i apwyntiwyd yn gyfarwyddwr cerddorol y Vauxhall Gardens yn yr un flwyddyn.
Cafodd yr enw barddol "Bardd Alaw" yn Eisteddfod Wrecsam 1821. Cyhoeddodd sawl traethawd a chyfrol ar gerddoriaeth Cymru, yn cynnwys dwy gyfrol o alawon Cymreig. Roedd yn adnabod Arglwyddes Llanofer a Felicia Hemans. Yn 1822 daeth yn Gofrestrydd Cerddorol i'r Cymmrodorion, ac ar 24 Mai 1826, cynhaliwyd cyngerdd er ei les ac anrhydedd ganddynt. Am weddill ei oes cymerodd ran amlwg fel beirniad cerdd mewn eisteddfodau. Bu farw yn ei gartref yn Llundain ar 8 Ebrill 1851, yn 75 mlwydd oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Parry (Bardd Alaw), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.