Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion

Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sedyflwyd gan Richard Morris yn Llundain yn 1751 yw Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion neu'r Cymmrodorion.

Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas cyhoeddi testun ysgrifenedig, cymdeithas ddysgedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1751 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cymmrodorion.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion
Poster gan The Cymmrodorion Society, yn argymell sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Mehefin 1876.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddwyd y cylchgrawn ysgolheigaidd Y Cymmrodor o 1877 hyd 1951 a'r Cymmrodorion Record Series o 1889 ymlaen. Y Cymmrodorion hefyd yw cyhoeddwyr Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) a'r fersiwn ar-lein. Mae Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn dal i gael ei gyhoeddi heddiw ac yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ymchwil i lên, hanes a diwylliant Cymru.

Darlithoedd

Mae’r gymdeithas yn trefnu cyfres o ddarlithoedd ble y cyflwynir papurau yn y Saesneg a’r Gymraeg gan siaradwyr o’r byd academaidd a chyhoeddus.

Cynhelir ein cyfarfodydd yn Llundain a Chymru, mewn lleoliadau sy’n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cynhelir darlith arbennig yn y Gymraeg sef Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Cymru yn Llundain a Chymdeithas Sir Drefaldwyn. Fel arfer, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Mai bob blwyddyn. Cyhoeddir y darlithoedd, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau eraill, yn y Trafodion blynyddol.

Swyddogion

  • Llywydd: Yr Athro Prys Morgan ers 2005
  • Noddwr: Y Tywysog Siarl
  • Ysgrifennydd: Peter Jeffreys
  • Trysorydd: Huw Wynne-Griffith
  • Ysgrifennydd Aelodaeth: Dr Adrian Morgan
  • Golygydd: Yr Athro Helen Fulton, ers 2008

Llyfryddiaeth

  • R. T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of the Gwyneddigion and Cymmrodorion Societies, 1751-1951 (Llundain, 1951)

Gweler hefyd

Dolen allanol

Tags:

Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion CyhoeddiadauAnrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion DarlithoeddAnrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion SwyddogionAnrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion LlyfryddiaethAnrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion Gweler hefydAnrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion Dolen allanolAnrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion1751Amgueddfa GenedlaetholEisteddfod Genedlaethol CymruLlundainLlyfrgell GenedlaetholPrifysgol CymruRichard Morris

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Dwysedd poblogaethCyfnewidfa Stoc Efrog NewyddJapanDie grüne LügeDroim Eamhna, Swydd MeathPanda MawrEmyr PenlanMaleiegInsolaçãoNaked SoulsMount Laurel, New JerseyDamhliag, Sir Meath, IwerddonEugenio MontaleGareth Yr OrangutanRhyfeloedd NapoleonSharkey County, MississippiBaile an Bheileogaigh, Sir MeathCreampieHolsteinRhif Cyfres Safonol RhyngwladolGwyddbwyllYr AlbanSameg AanaarEva Strautmann2002RigaCarol hafCi poethPeiriant WaybackOrganau cenhedluLleuwen SteffanISO 639-2Holstein, IowaMuscatSisters of AnarchyCalan MaiUnol Daleithiau AmericaJavier MileiCarchar MerchedTsieciaSouthampton Township, New Jersey960Chwedl GelertSwedegMaigh Locha, Sir MeathEmily Mary OsbornJerusalem (Anthem William Blake)UTCWhatsAppBwlgariaIl Vizio Preferito Di Mia MoglieIsaac AsimovNur Dir zuliebe – Gori Tere Pyaar MeinWilliam Morgan (esgob)Thomas MoreChwaraeonSamuel Griffith5ed ganrifAlldafliadGweriniaeth IwerddonKielSam TânFfilmWinslow Township, New JerseyRhegen Ynys InaccessibleElizabeth Taylor🡆 More