Brechdan selsigen yw ci poeth neu boethgi ble mae'r selsigen wedi'i weini mewn agen a wnaed mewn bynsen hir.
Gall gyfeirio hefyd at y selsigen yn unig. Mae cyfwyd nodweddiadol ar gyfer ci poeth yn cynnwys mwstard, sôs coch, mayonnaise, ac enllyn, a garnisiau cyffredin yn cynnwys nionod, bresych picl, tshili, caws, colslo, ac olewydd.
Daeth y mathau o selsig sy'n cael eu rhoi mewn cŵn poeth o'r Almaen a daethant yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, ac yno y daeth y "ci poeth" yn fwyd stryd i'r dosbarth gweithiol, yn cael eu gwerthu ar stondinau a chertiau. Daeth y ci poeth i'w gysylltu'n agos â phêl fas a diwylliant Americanaidd. Er ei fod yn cael ei gysylltu yn arbennig â Dinas Efrog Newydd, daeth y ci poeth i'w weld ledled yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr 20g.
Mae'r term ci (neu 'dog' yn Saesneg) wedi'i ddefnyddio fel gair i gyfeirio at selsigen ers y 19g. Un gred yw ei fod yn cael ei ddefnyddio fel cyhuddiad bod gwneuthurwyr selsig yn defnyddio cig cŵn, a hynny o leiaf ers 1845. Mae'n debyg bod bwyta cig cŵn yn eitha cyffredin yn yr Almaen ar ddechrau'r 20g.
Mae ci poeth yn enghraiff berffaith o air neu derm sy'n cyfieithiad benthyg, hynny yw, gair neu gysyniad sydd wedi ei gyfieithu'n llythrennol o iaith arall heb ei fod yn gwneud synnwyr yn yr iaith a gyfieithwyd iddi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ci poeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.