Cerflunydd Fictorianaidd o fri oedd John Gibson (bed.
19 Mehefin 1790; marw 27 Ionawr 1866), a anwyd yn Nhŷ Capel Forddlas, Llansanffraid Glan Conwy ac a magwyd yn y Gyffin, ger Conwy. Astudiodd yn Rhufain gyda'r meistr Antonio Canova. Ymhlith ei waith mwyaf nodedig y mae Robert Peel a welir yn Abaty Westminster, cerflun o William Huskisson yn St George's Square ac un o'r Frenhines Victoria yn Mhalas Westminster.
John Gibson | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1790 Conwy |
Bu farw | 27 Ionawr 1866 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd |
Penderfynnodd y teulu symud i America, pan oedd yn 9 oed; wedi cyrraedd Lerpwl, fodd bynnag, penderfynnwyd bwrw angor yn y dref honno. Yno, prentisiodd gyda chwmni dodrefn cyn symud i ddysgu sut i greu cerfluniau allan o farmor, gyda'r Meistri Francis. Daeth i gysylltiad a rhai o geflunwyr mawr ei gyfnod wedi iddo symud i Lundain yn 1817. Bu'r hanesydd William Roscoe yn noddwr iddo am flynyddoedd; priododd ŵyres Roscoe â Henry Sandbach, o Hafodunos, Abergele, a bu hi a Gibson yn ffrindiau oes.
Ym Hydref 1817 symudodd i Rufain i weithio yng ngweithdy y cerflunydd Eidalaidd enwog Antonio Canova, efallai'r cerflunydd neo-glasurol mwya. Roedd ei gerfluniau i gyd yn yr arddull Glasurol, a cheisiodd Gibson atgyfodi'r arfer o beintio cerfluniau marmor gyda lliwiau llachar fel y gwnaeth y Groegiaid hynafol. Ef oedd hoff gerflunydd y Frenhines Victoria. Mae 10 o'i gerfluniau i'w gweld yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain a phump yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Bu Gibson yn byw am gyfnod hir fel oedolyn yn Rhufain gyda’i bartner, yr arlunydd o Gymro, Penry Williams. Roedd ei waith enwocaf 'The Tinted Venus' wedi achosi dadlau pan gafodd ei arddangos gyntaf. Gellir ei weld yn awr yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Gibson (cerflunydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.