Roedd Jesse Woodson James (5 Medi 1847 – 3 Ebrill 1882) yn herwr, lleidr banc a llofrudd o Americanwr a aned yn Centerville, Missouri, UDA.
Rhwng 1860 a 1881, credir fod y James Gang wedi dwyn cymaint â $200,000. Cynhyrchwyd y ffilm cyntaf ohono yn 1921: Jesse James Under the Black Flag a oedd yn serennu ei fab, o'r un enw.
Jesse James | |
---|---|
Ganwyd | Jesse Woodson James 5 Medi 1847 Kearney, Missouri |
Bu farw | 3 Ebrill 1882 St. Joseph, Missouri |
Man preswyl | Jesse James Home Museum |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cowboi |
Tad | Robert S. James |
Mam | Zerelda James |
Priod | Zerelda Mimms |
Plant | Jesse E. James |
llofnod | |
Jesse oedd aelod enwocaf Giang James-Younger. Ers ei farwolaeth yn St. James, Missouri, yn 1882, mae wedi tyfu'n ffigwr llên gwerin gyfoes sydd wedi ysbrydoli sawl ffilm, llyfr a chylchgrawn cartŵn. Roedd y teulu o dras Gymreig: yr oedd Jesse yn or-ŵyr i William James, a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn 1754 a ymfudodd i Bennsylvania gyda'i deulu. Enw'i daid (sef mab William James) oedd John James.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jesse James, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.