Mathemategydd, gwyddonydd, ac athronydd Ffrengig yng nghyfnod yr Oleuedigaeth oedd Jean le Rond d'Alembert (17 Tachwedd 1717 – 29 Hydref 1783) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at fecaneg glasurol a chalcwlws integrol.
Yn ei Traité de dynamique (1743) fe gyflwynai datrysiad, a elwir egwyddor d'Alembert, i gymhwyso trydedd ddeddf mudiant Newton at wrthrychau sy'n symud. Darganfu d'Alembert hafaliad tonnau un-dimensiwn, math o hafaliad differol, ym 1746, a ddatblygodd ffurf gynnar ar system hafaliadau Cauchy–Riemann. Efe oedd un o'r prif gyfranwyr at yr Encyclopédie (1751): cyd-olygydd yr argraffiad cyntaf, gyda Denis Diderot, ac awdur rhyw fil o erthyglau, gan gynnwys y "Discours Préliminaire". Ei arbenigedd, wrth gwrs, oedd mathemateg a ffiseg, a chyfrannodd hefyd draethodau am gerddoriaeth ac acwsteg.
Jean le Rond d'Alembert | |
---|---|
Portread pastel o Jean le Rond d'Alembert gan Maurice Quentin de La Tour (1753). | |
Ganwyd | 16 Tachwedd 1717 Paris |
Bu farw | 29 Hydref 1783 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Teyrnas Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, mathemategydd, ffisegydd, cerddolegydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, damcaniaethwr cerddoriaeth, gwyddoniadurwr, peiriannydd, seryddwr, geiriadurwr, deallusyn |
Swydd | perpetual secretary of the French Academy, seat 25 of the Académie française |
Adnabyddus am | d'Alembert's paradox, d'Alembert operator, Encyclopédie |
Tad | Louis-Camus Destouches, Léopold Philippe d'Arenberg |
Mam | Claudine Guérin de Tencin |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Ganed ef ym Mharis, Teyrnas Ffrainc. Cafwyd ef yn noeth ar risiau eglwys St Jean le Rond: dygwyd ef i fyny gan wraig gwydrwr, a darganfyddwyd mai mab anghyfreithlon ydoedd i'r Chevalier Destouches a Madame de Tencin, gwraig hynod am ei harabedd a'i phrydferthwch, gŵr yr hon oedd yn swyddog cyflegrol. Efe a dderbyniodd ei addysg yng Ngholeg Mazarin: ymroddodd gyda brwdfrydedd i astudio gwyddoniaeth, a derbyniwyd ef i'r Athrofa Wyddonol ym 1741. Gyda Diderot, efe a sefydlodd yr Encyclopédie enwog: ysgrifennodd y traethawd rhagarweiniol iddo, a golygodd y rhan wyddonol o'r gwaith. Yr oedd yn gyfaill i Ffredrig II, Brenin Prwsia, yr hwn yn aflwyddiannus a geisiodd ganddo ymsefydlu ym Merlin. Gwasgodd Catrin II, Ymerodres Rwsia arno i ymgymryd ag addysg ei mab, ond yn ofer. Hoffai neilltuaeth ac annibyniaeth, safai draw o gymdeithas, ac nid oedd yn gofalu dim ynghylch arian ac anrhydedd. Ysgrifennodd amryw o lyfrau pwysig ar wahanol bynciau gwyddonol a hanesiol. Bu hefyd yn un o ryddfeddylwyr amlyca'r Oleuedigaeth yn Ffrainc. Prif nodweddion ei gymeriad oedd caredigrwydd, symlrwydd, ac annibyniaeth. Fe'i etholwyd i'r Académie française ym 1754, a bu farw ym Mharis yn 65 oed. Yr argraffiad gorau o'i weithiau athronyddol a llenyddol yw un a gyhoeddwyd gan Bastren ym Mharis, ym 1805, mewn deunaw o gyfrolau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jean le Rond d'Alembert, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.