Biocemegydd o Dreboeth, Abertawe, yw Jean Olwen Thomas DBE FRS FMedSci MAE FLSW (ganwyd 1 Hydref 1942).
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd y Merched Llwyn-y-Bryn a Choleg Prifysgol Cymru Abertawe (lle enillodd BSc dosbarth cyntaf anrhydedd mewn cemeg yn 1964) a PhD yn 1967. Mae hi'n Athro Emeritws mewn Biocemeg Macromoleciwlar ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (1986). Cafodd gyrfa disglair yn ymchwilio i cromatin (yng nghnewyllyn y gell) yn Adran Biocemeg Prifysgol Caergrawnt. Cyfrannodd peth o'i gwaith at lwyddiant cyfaill iddi, Roger Kornberg, ennill Gwobr Nobel mewn Cemeg yn 2006. Yng Nghaergrawnt bu'n Feistr ar Goleg St Catherine's. Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol i'r swydd. Yn 2018 fe'i hapwyntiwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe (yn dilyn Rhodri Morgan).
Jean Olwen Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1942 Treboeth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | biocemegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Royal Society of Biology, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol |
Yn ogystal â nifer helaeth o gyfrifoldebau ac anrhydeddau rhyngwladol, anrhydeddwyd Jean Thomas gan nifer o sefydliadau Cymreig, gan cynnwys cymmrodoriaethau er anrhydedd o Brifysgolion Abertawe (1987), Caerdydd (1998) ac Aberystwyth (2009 - fel cydnabyddiaeth iddi fel gwyddonydd Cymreig) a Doethuriaeth er anrhydedd gan Prifysgol Cymru yn 1992. Yn 2010 hi oedd un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru a hi oedd enillydd gyntaf Medal Frances Hoggan y gymdeithas honno yn 2016.
Yn ôl Athro Syr John Meurig Thomas, "Mae hi'n uchel ei pharch yn y byd biocemeg."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jean Olwen Thomas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.