Llenor o Hwngari oedd János Arany (Hwngareg: Arany János) (2 Mawrth 1817 – 22 Hydref 1882), a oedd yn adnabyddus fel newyddiadurwr, awdur, bardd, a chyfieithydd.
Mae wedi cael ei ddigrifio fel "Shakespeare y faled" – cyfansoddodd dros 40 baled sydd wedi cael eu cyfieithu i dros 50 o ieithoedd. Ef hefyd yw awdur tair cyfrol y Toldi a'r gerdd ramantaidd A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru').
János Arany | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1817 Salonta |
Bu farw | 22 Hydref 1882 Budapest |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Toldi trilogy |
Priod | Julianna Ercsey |
Plant | Julianna Arany, László Arany |
Gwobr/au | Urdd Sant Steffan o Hwngari |
llofnod | |
Ganwyd y llenor yn Nagyszalonta, tref Hwngariadd ar y pryd sy'n rhan o Rwmania heddiw. Dysgodd Almaeneg, Ffrangeg a Lladin. Yn 1845, enillodd gystadleuaeth lenyddol y Kisfaludy Társaság am ei gerdd "Az elveszett alkotmány" ('Y Cyfansoddiad Coll'). Ar ôl cyhoeddi ei waith mawr Toldi, daeth yn gyfaill i Sándor Petőfi. Cafodd marwolaeth ei gyfaill yn Chwyldro Hwngaraidd 1848 effaith fawr arno fel gwladgarwr a democrat.
Gweithiodd fel athro yn Nagykőrös, lle enwir yr amgueddfa leol ar ei ôl. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Gwyddoniaeth Hwngari yn 1858 a daeth yn ysgrifennydd cyffredinol yr academi yn 1865. Bu'n gyfarwyddwr etholedig y Gymdeithas Kisfaludy hefyd, cymdeithas lenyddol fwyaf Hwngari.
Bu farw Arany yn Budapest ar 22 Hydref 1882.
Un o'r cerddi enwocaf gan y bardd yw "A Walesi Bárdok" ('Beirdd Cymru'), cerdd wladgarol ramantaidd sy'n seiliedig ar yr hanesyn am gyflafan y beirdd yng Nghymru gan Edward I o Loegr. Ysgrifennodd Arany y gerdd pan ymwelodd Franz Joseph, Ymerodr Awstria, â Hwngari ar ôl iddo gorchyfygu Chwyldro Hwngaraidd 1848. Yn wreiddiol, roedd Arany wedi cael ei gomisiynu i gyfansoddi cerdd o fawl i'r ymerodr. Ond yn y gerdd mae Arany yn defnyddio'r hanesyn am feirdd Cymru i ddangos y modd anghyfiawn y trinwyd Hwngari a'r Hwngariaid gan Ymerodraeth Awstria. Daeth yn gerdd adnabyddus iawn yn Hwngari. Mae diolch i'r gerdd hon yn anad dim fod yr Hwngariaid yn gwybod am Gymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article János Arany, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.