Mae Inferno yn ffilm gyffrous Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ron Howard ac ysgrifennwyd gan David Koepp.
Fe'i seiliwyd ar y nofel 2013 o'r un enw gan Dan Brown. Dilyna Inferno y ffilm Angels & Demons, gyda Tom Hanks yn ailgydio yn ei rôl fel Robert Langdon. Yn ogystal â Hanks, serenna Felicity Jones, Omar Sy, Sidse Babett Knudsen, Ben Foster, ac Irrfan Khan yn y ffilm. Dechreuodd ffilmio ar 27 Ebrill 2015 yn Fenis, yr Eidal a daeth i ben ar 21 Gorffennaf 2015. Rhyddheir y ffilm ar 28 Hydref 2016 mewn fformatau 3D a 2D.
Cyfarwyddwr | Ron Howard |
---|---|
Cynhyrchydd | Brian Grazer Michael De Luca Andrea Giannetti |
Ysgrifennwr | Sgript gan David Koepp Seiliwyd ar Inferno gan Dan Brown |
Serennu | Tom Hanks Felicity Jones Omar Sy Ben Foster Irrfan Khan Sidse Babett Knudsen |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer |
Sinematograffeg | Salvatore Totino |
Golygydd | Tom Elkins Dan Hanley |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Imagine Entertainment Skylark Productions |
Dyddiad rhyddhau | 28 Hydref 2016 (Yr Unol Daleithiau) Dosbarthwyr Columbia Pictures |
Amser rhedeg | I'w gyhoeddi |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Dihuna Robert Langdon mewn ystafell ysbyty yn Fflorens, yr Eidal, heb unrhyw atgofion o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf. Daw yn amlwg ei fod, unwaith eto, yn darged mewn helfa ddynion. Ond gyda help Dr. Sienna Brooks, a'i wybodaeth o symboleg, ceisia Langdon adennill ei ryddid, a'i atgofion coll, wrth iddo ddatrys y dirgelwch mwyaf mae erioed wedi'i wynebu.
Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Sony y rhyddheir y ffilm ar 18 Rhagfyr 2015, ond oherwydd rhyddhad Star Wars: The Force Awakens, symudwyd y dyddiad yn ôl blwyddyn i 14 Hydref, 2016. Fe'i symudwyd eto i 28 Hydref 2016. Bydd y ffilm ar gael mewn fformatau 2D a 3D.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Inferno (ffilm 2016), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.