Hermann Hesse: Awdur Almaeneg (1877-1962)

Nofelydd a bardd o'r Almaen yn yr iaith Almaeneg a ymfudodd i'r Swistir oedd Hermann Hesse (2 Gorffennaf 1877 – 9 Awst 1962) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1946.

Hermann Hesse
Hermann Hesse: Awdur Almaeneg (1877-1962)
FfugenwEmil Sinclair Edit this on Wikidata
Ganwyd2 Gorffennaf 1877 Edit this on Wikidata
Calw Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1962 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Montagnola Edit this on Wikidata
Man preswylyr Almaen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir, yr Almaen, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Johannes-Kepler-Gymnasium
  • Evangelical Seminaries of Maulbronn and Blaubeuren Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, arlunydd, athronydd, darlunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Glass Bead Game, Demian, Der Steppenwolf, Siddhartha, Peter Camenzind Edit this on Wikidata
MamMarie Hesse Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Wilhelm Raabe Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.hermann-hesse.com/ Edit this on Wikidata
llofnod
Hermann Hesse: Awdur Almaeneg (1877-1962)

Ganed ef yn Calw, Teyrnas Württemberg, yng nghyfnod Ymerodraeth yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Calw ac yn Basel yn y Swistir. Mynychodd yr ysgol yn Göppingen, ger Stuttgart, cyn cael ei dderbyn i Goleg Diwinyddol Maulbronn ym 1891. Er yr oedd yn ddisgybl galluog, nid oedd yn hoff o awyrgylch pietistaidd y drefn addysg, a gadawodd y coleg erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf.

Aeth yn brentis mewn ffatri glociau yn Calw, ac yn ddiweddarach yn brentis mewn siop lyfrau yn Tübingen. Ei brif ddyhead oedd i fod yn fardd, a chasgliad o gerddi oedd ei lyfr cyntaf, Romantische Lieder (1898). Gweithiodd yn werthwr llyfrau nes iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, Peter Camenzind, ym 1904 a throi'n llenor llawn-amser ar ei liwt ei hun. Mae ei nofelau cynnar eraill yn cynnwys Unterm Rad (1906), Gertrud (1910), a Rosshalde (1914).

Cafodd Hesse sesiynau â'r seiciatrydd J. B. Lang, un o ddisgyblion Carl Jung, a gwelir dylanwad seicdreiddiad yn ei nofel Demian (1919). Ymwelodd â'r India, ac ysgrifennodd un o'i weithiau amlycaf, y nofel Siddhartha (1922), am hanes y Bwda. Mae ei nofelau diweddarach, gan gynnwys Der Steppenwolf (1927), Narziss und Goldmund (1930), a Das Glasperlenspiel (1943), yn ymwneud â deuoliaeth bywyd.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), symudodd Hesse i'r Swistir, a oedd yn wlad niwtral, ac yno ysgrifennai ymosodiadau ar filitariaeth a chenedlaetholdeb, a golygydd hefyd gyfnodolyn ar gyfer carcharorion rhyfel Almaenig. Derbyniodd statws preswylydd parhaol ym 1919, a dinasyddiaeth Swisaidd ym 1923. Ymsefydlodd ym Montagnola, yng nghanton Ticino, a bu farw yno ym 1962 yn 85 oed.

Cyfeiriadau

Tags:

187719622 Gorffennaf9 AwstAlmaenegAlmaenwyrBarddGwobr Lenyddol NobelNofelyddSwistir

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Lady Fighter AyakaThe BirdcageEtholiad nesaf Senedd CymruNepal1584Nicole Leidenfrost23 MehefinHTTPBwncath (band)The Silence of the Lambs (ffilm)Coron yr Eisteddfod GenedlaetholPysgota yng NghymruErrenteriaAristotelesSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanMahanaDerwydd8 EbrillThe End Is NearOld HenryAngela 2Raja Nanna RajaTrais rhywiolYsgol Cylch y Garn, LlanrhuddladCopenhagenY Maniffesto Comiwnyddol31 HydrefMark HughesSiot dwad wynebVita and VirginiaRecordiau CambrianNewid hinsawddRhufainCharles Bradlaugh13 EbrillSiôr II, brenin Prydain FawrBanc LloegrCastell y BereLlwynogLleuwen SteffanRichard ElfynTrawstrefaOblast MoscfaY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruGemau Olympaidd yr Haf 2020TymhereddStorio dataFfilm llawn cyffroS4CEliffant (band)Alien RaidersJohn Churchill, Dug 1af MarlboroughEconomi CymruTsiecoslofaciaFfrwythTony ac AlomaCarcharor rhyfelAngel HeartMartha WalterGemau Olympaidd y Gaeaf 2022DinasAnne, brenhines Prydain FawrBannau BrycheiniogDewi Myrddin HughesPont VizcayaBadmintonIechyd meddwlRiley ReidBlwyddyn🡆 More