Tref yn nhalaith Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Tübingen, neu Dibenga (ynganiad: ) yn yr iaith Alemanneg.
Saif ar gymer Afon Neckar ag afonydd Ammer a Steinlach, i'r de o Stuttgart.
Golwg ar Tübingen o'r awyr yn 2018. | |
Math | tref goleg, prif ganolfan ranbarthol, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, tref ardal mawr Baden-Württemberg |
---|---|
Poblogaeth | 92,811 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Boris Palmer |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Aigle, Monthey, Aix-en-Provence, Ann Arbor, Michigan, Durham, Perugia, Petrozavodsk, Kilchberg, Kingersheim, Villa El Salvador District, Moshi |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tübingen |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 108.12 km² |
Uwch y môr | 338 metr |
Gerllaw | Afon Neckar |
Yn ffinio gyda | Rottenburg-am-Neckar, Gomaringen, Dußlingen, Kusterdingen |
Cyfesurynnau | 48.52°N 9.0556°E |
Cod post | 72070, 72072, 72074, 72076 |
Pennaeth y Llywodraeth | Boris Palmer |
Sefydlwyd anheddiad o'r enw Castra Alamannorum o amgylch Hohentübingen, castell Breinieirll Tübingen a sonnir amdani gyntaf ym 1078. Mae'r cofnod hynaf o Tübingen fel tref yn dyddio o 1231. Pwrcaswyd y dref gan Ieirll Württemberg ym 1342, a dyrchafwyd yr iarllaeth yn ddugiaeth ym 1495. Cipiwyd Tübingen gan Gynghrair Swabia ym 1519, ac yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain cwympai i luoedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1634, Sweden ym 1638, a Ffrainc ym 1647.
Sefydlwyd Prifysgol Tübingen gan yr Iarll Eberhard VI ym 1477, a sefydlwyd y coleg diwinyddol Protestannaidd yno gan y Dug Ulrich ym 1534. Bu nifer o enwogion o amryw feysydd yn astudio yn Tübingen, gan gynnwys y seryddwr Johannes Kepler, y bardd Friedrich Hölderlin, yr athronwyr G. W. F. Hegel a Friedrich Wilhelm Joseph Schelling, y diwinydd a dyngarwr Albert Schweitzer, y diwinydd Hans Küng, a'r Pab Bened XVI.
Mae economi Tübingen yn seiliedig ar y diwydiant cyhoeddi, metelwaith, cynhyrchu cemegion a dillad, a thwristiaeth. Ymhlith yr adeiladau o nod mae Hohentübingen, a ailgodwyd fel dug-gastell yn yr 16g; Eglwys Golegol San Siôr, a adeiladwyd yn yr arddull Gothig ym 1470–90, sydd yn cynnwys beddrodau Dugiaid Württemberg; a neuadd y dref sydd yn dyddio o 1435.
Ganwyd y bardd Ludwig Uhland a'r hanesydd Syr Geoffrey Elton yma.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tübingen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.