Fforiwr a morwr o Sais oedd Henry Hudson (tua 1565 – 1611) sydd yn nodedig am fentro i archwilio Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain a Thramwyfa'r Gogledd Orllewin, a'i ddarganfyddiadau ar hyd arfordiroedd a dyfrffyrdd Gogledd Ddwyrain yr Amerig.
Henry Hudson | |
---|---|
Paentiad gan Robert Walter Weir (1835) sydd yn dychmygu Henry Hudson a'i griw yn glanio yn Verplanck Point, Efrog Newydd, ym 1609. | |
Ganwyd | 1565 Teyrnas Lloegr |
Bu farw | Unknown James Bay |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | fforiwr, morwr |
Nid oes tystiolaeth o'i deulu, ei enedigaeth, nac ei ieuenctid. Er gwaethaf, mae'n debyg yr oedd yn Llundeiniwr, a chredir iddo gael ei eni yn y 1560au. Mae cofnodion yn cyfeirio ato fel meistr, yn hytrach na chapten, ac yn awgrymu felly yr oedd yn forlywiwr o ran ei swydd.
Cafodd ei hurio gan Gwmni Mysgofi i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain, a methiant fuont ei ymdrechion ym 1607 a 1608. Aeth ar drydedd fordaith i ganfod llwybr i Asia ar gais Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain ym 1609. Pan gafodd ei atal gan y rhew yn Spitsbergen, penderfynodd Hudson hwylio i'r gorllewin i geisio canfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin. Trwy fforio baeau Chesapeke, Delaware, ac Efrog Newydd, hawliwyd yr ardal honno yng Ngogledd America gan yr Iseldirwyr. Ariannwyd ei bedwaredd fordaith, a honno i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, gan y Saeson ym 1610. Wedi cyfnod hir o aros yn y rhew, bu miwtini gan ei griw a chafodd Hudson, ei fab, a saith dyn arall eu gadael i farw.
Enwir Bae Hudson, Afon Hudson, a Chulfor Hudson ar ei ôl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Henry Hudson, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.