Mae gan wledydd y byd amrywiaeth o ddeddfau sy'n ymwneud â pherthnasau rhywiol rhwng pobl o'r un rhyw.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Mae fwyfwy o gymdeithasau rhyddfrydol, y mwyafrif yn y Gorllewin, yn caniatáu priodasau ac uniadau cyfunryw a phobl LHD i fabwysiadu plant yn gyfreithlon ac yn pasio deddfwriaeth trosedd casineb i ddiogelu hoywon, lesbiaid a deurywiolion, tra bo llawer o wladwriaethau crefyddol, yn enwedig yn y Byd Mwslemaidd, yn cosbi ymddygiad cyfunrywiol rhwng unigolion, sy'n amrywio o ddirwyon i'r gosb eithaf.
Yn ogystal â deddfau yn erbyn gweithredoedd cyfunrywiol, mae nifer o wledydd yn ystyried galw person yn gyfunrywiol yn sail ddigonol am achos llys difenwad.
EwropEr gwaethaf hanes hir o erledigaeth a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHD, heddiw mae pump o'r saith gwlad sydd wedi cyfreithloni priodas gyfunryw wedi'u lleoli yn Ewrop, ac mae 17 o wledydd Ewropeaidd wedi cyfreithloni uniadau sifil. Nid yn unig yw aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn ymofyn am ddiddymiad unrhyw ddeddfwriaeth wrth-gyfunrywiol, ond mae Cytundeb Amsterdam yn gorchymyn i ddeddfwriaeth wrth-wahaniaethu gael ei deddfu gan ei aelod-wladwriaethau. | ||||||
Gwlad | Deddfau yn erbyn cyfunrywioldeb | Cosb | Uniadau cyfunryw | Deddfau yn erbyn gwahaniaethu | Mabwysiad | Sylwadau |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwlad Belg | Dim
| — | Priodas gyfunryw (ers 2003) | Oes | Oes (ers 2006) | |
Y Deyrnas Unedig | Dim
| — | Partneriaethau sifil (ers 2005) | Deddfwriaeth trosedd casineb arfaethedig | Oes (ers 2002) | Y trobwynt mewn newid agweddau llywodraethol a chyhoeddus tuag at ddeddfwriaeth ar gyfunrywioldeb oedd cyhoeddiad Adroddiad Wolfenden yn 1957. Roedd cyfunrywioldeb rhwng menywod byth yn anghyfreithlon. |
Sbaen | Dim (diddymwyd ym 1979) | — | Priodas gyfunryw (ers 2005) | Oes (ers 2005) | Oes | Mae uniadau sifil yn bodoli yn 12 o 17 cymuned ymreolaethol y wlad. |
Gogledd America | ||||||
Gwlad | Deddfau yn erbyn cyfunrywioldeb | Cosb | Uniadau cyfunryw | Deddfau yn erbyn gwahaniaethu | Mabwysiad | Sylwadau |
Canada | Dim (diddymwyd ym 1969) | — | Priodas gyfunryw (ers 2005) | Oes | Oes yn:
Nac oes yn: Cyfraith yn ansicr yn: | |
Yr Unol Daleithiau | Dim Yr achos diweddaraf ynglŷn â'r mater oedd Lawrence v. Texas, 2003: dyfarnodd y Llys Goruchaf bod deddfau sodomiaeth yn anghyfansoddiadol. Priodas gyfunryw wedi'i gwahardd yn: | — | Uniadau sifil yn: Partneriaethau domestig yn: Priodas gyfunryw yn:
| Oes
| Oes; mabwysiadu gan gyplau cyfunryw yn gyfreithlon yn:
Fflorida yw'r unig dalaith sy'n gwahardd mabwysiad gan unigolion LHDT. Mae cyfraith y mwyafrif o daleithiau eraill yn amwys ar y mater. | Pwnc llosg dadleuol iawn yn yr UD yw cyfunrywioldeb a hawliau LHDT, gyda safbwyntiau polareiddiedig sy'n ymglymu agweddau crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol. Darganfuodd Arolwg Agweddau Byd-eang 2003 Canolfan Ymchwil Pew bod mwyafrif cul (51 %) o Americanwyr yn credu dylai cyfunrywioldeb gael ei dderbyn gan gymdeithas, tra bo 42% yn anghytuno. |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hawliau LHDT yn ôl gwlad neu diriogaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.