Melysion traddodiadol ym Mhrydain yw gymiau gwin (ffurf unigol: gwm gwin).
Maent yn jelïau o flasau, lliwiau a siapiau gwahanol a wneir o gelatin neu bectin. Gan amlaf ceir enwau gwahanol gwinoedd a diodydd alcoholaidd eraill ar y melysion. Er yr enw, nid oes alcohol ynddynt.
Dyfeisiwyd gan Charles Gordon Maynard, etifedd y cwmni Maynards, ym 1909. Bu'n rhaid iddo berswadio ei dad, Charles Riley Maynard, nad oedd y melysion yn cynnwys gwin. Yr enwau ar gymiau gwin Maynards yw "port", "sherry", "champagne", "burgundy", a "claret". Mae brandiau eraill yn cynhyrchu gymiau gwin gydag enwau eraill gan gynnwys brandi, jin, seidr, hoc, coniac, a rỳm, er nad yw rhai o'r diodydd hyn yn winoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gymiau gwin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.