Gwirod a wneir o wahanol fathau o ffrwythau, ond yn arbennig grawnwin, yw brandi.
Daw'r gair o'r Iseldireg brandewijn. Mae'n cynnwys rhwng 35–60% o alcohol, o ran ei gyfaint, (70–120 'prawf' UDA) a chaiff ei yfed, fel rheol, wedi cinio er mwyn cynorthwyo i dreulio'r bwyd.
Enghraifft o'r canlynol | Gwirod |
---|---|
Math | wine spirit |
Lliw/iau | amber |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel arfer, yfir brandi ar dymheredd yr ystafell, ond yn aml, fe'i rhoddir mewn gwydr llydan er mwyn i wres y llaw godi ei dymheredd ychydig. I gyflymu'r broses hon, gellir rhoi gwydriad o frandi mewn popty microdon am tua 5 eiliad.
Ceir llawer o wahanol fathau o frandi o rawnwin, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Cysylltir y ddiod yn arbennig a Ffrainc, lle mae mathau enwog o frandi yn cynnwys Cognac ac Armanac. Ymhlith y gwledydd eraill sy'n nodedig am gynhyrchu brandi mae Sbaen, yn enwedig ardal Jerez de la Frontera, ac Armenia. Cedwir y goreuon am gyfnod hir mewn casgenni prenb, derw, ond defnyddir 'caramel' ar eraill er mwyn tywyllu lliw'r hylif iddo edrych yn hen.
Gellir defnyddio nifer o ffrwythau eraill, ar wahân i rawnwin, i gynhyrchu brandi, er enghraifft Calvados, a wneir yn Normandi o afalau; math arall yw brandi pomace. Gelwir y diodydd hyn yn eau de vie (sef y term Ffrangeg am "ddŵr y bywyd").
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brandi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.