Gwynoro Jones: Gwleidydd Cymreig

Gwleidydd o Gymru yw Gwynoro Glyndwr Jones (ganwyd 21 Tachwedd 1942).

Gwynoro Jones
Ganwyd21 Tachwedd 1942 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol Edit this on Wikidata

Cyn mynd i'r Senedd roedd yn Swyddog Ymchwil a Cysylltiadau Cyhoeddus i'r Blaid Lafur yng Nghymru a gyda eraill wedi'i ddrafftio tystiolaeth Llafur i'r Comisiwn Brenhinol Crowther/Kilbrandon ar y Cyfansoddiad.

Yn y 1960au hwyr, gweithiodd fel economegydd i Bwrdd Nwy Cymru.

Ym 1970, daeth yn AS yn 27 mlwydd oed, pan etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros Caerfyrddin, trechodd Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, gyda 3,600 o fwyafrif. Mewn etholiad hanesyddol glynodd at y sedd yn etholiad Chwefror 1974 o 3 pleidlais ac ar ôl pum ail gyfri fe gollodd y sedd yn ôl i Evans o 3,640 o bleidleisiau yn yr etholiad mis Hydref y flwyddyn honno.

Pan yn AS oedd yn Ysgrifennydd Seneddol 1974 i'r Gwir Anrhydeddus Roy Jenkins yr Ysgrifennydd Cartref ac roedd hefyd yn aelod o Cyngor Ewrop. Drwy gydol ei amser yn y Senedd oedd yn ymgyrchu am fwy o ddatganoli i Gymru a oedd yn fater rhaniad dwfn yn Plaid Lafur Cymru.

Ar ôl y Senedd, bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Ymchwil ac yn ddiweddarach, Uwch Swyddog Addysg i Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg hyd at 1992.

Yn 1981, helpodd sefydlu y blaid ddemocrataidd gymdeithasol. Safodd Gwynoro yn yr is etholiad Gŵyr yn 1982 pan gostyngwyd mwyafrif 19,000 Llafur i 7,000. Roedd yn Gadeirydd y Democratiaid Cymdeithasol yng Nghymru am ddau gyfnod o dair blynedd cyn hyd nes unwyd y blaid gyda'r Rhyddfrydwyr.

Yn ystod blynyddoedd y Gynghrair SDP-Rhyddfrydol cyd - cadeiriodd y Bwyllgor Cenedlaethol yng Nghymru dros y cyfnod cyfan 1983-1988. Yn y 1980 au roedd Gwynoro yn lladmerydd cryf dros ddiwygio cyfansoddiadol a etholiadol ac yn areithiwr enwog mewn cynadleddau a chyfarfodydd cyhoeddus ledled y DU. Pan ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol safodd am Llywyddiaeth y blaid newydd gan dderbyn 10,000 o bleidleisiau. Daeth yn agos i frig y pôl ddwywaith yn y bleidlais ar gyfer Pwyllgor Cenedlaethol y blaid rhwng 1989 a 1992 a hefyd daeth yn is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi. Yn 1992 fu yn ymgeisydd sedd Henffordd a derbyniodd dros 23,000 o bleidleisiau.

Ar ôl hynny canolbwyntiodd Gwynoro ar ei weithgareddau busnes o 1993 i 2013 gan fod yn Gyfarwyddwr cwmni arolugu ysgolion a cynadledda a arolygwyd tua 10,000 o ysgolion yng Nghymru a Lloegr dros y cyfnod.

Bellach mae'n treulio ei amser yn ysgrifennu ei bywgraffiad yn ogystal ag ymgyrchu ar gyfer PR, Teyrnas Unedig Federal ac i'r Democratiaid Rhyddfrydol – mae yn ymddangos yn y cyfryngau yn aml.  

Cyfeiriadau

Dolenni allaonol

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Gwynfor Evans
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
1970Hydref 1974
Olynydd:
Gwynfor Evans

Tags:

1942GwleidyddTachwedd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Stanton County, NebraskaMelon dŵrSylvia AndersonFfilmBrandon, De DakotaFerraraEtta JamesRichard Bulkeley (bu farw 1573)John Alcock (RAF)Robert WagnerMehandi Ban Gai KhoonCerddoriaethLYZRhoda Holmes NichollsJoe BidenY Rhyfel Byd CyntafSigwrat1642Faulkner County, Arkansas681Erie County, OhioYnysoedd CookYr Ymerodraeth OtomanaiddMassachusettsNemaha County, NebraskaClifford Allen, Barwn 1af Allen o HurtwoodWashington (talaith)Arwisgiad Tywysog CymruSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigWashington County, NebraskaBrwydr MaesyfedLlwybr i'r LleuadGwlad PwylHamesima XMaria Helena Vieira da SilvaMorrow County, OhioByddin Rhyddid CymruMawritaniaGertrude BaconYr EidalDinas Efrog NewyddFrontier County, NebraskaDiwrnod Rhyngwladol y GweithwyrJefferson County, NebraskaAmericanwyr SeisnigDyodiadMET-ArtKeanu ReevesMacOSLlundainClark County, OhioAneirinCIAWinslow Township, New JerseyCyfathrach rywiolHafanJohnson County, NebraskaGwanwyn PrâgArian Hai Toh Mêl HaiMervyn JohnsEsblygiadNuckolls County, NebraskaGeorge LathamTbilisiMaria ObrembaPrairie County, MontanaCanfyddiadGeorgia (talaith UDA)Edward BainesFfraincDubaiFeakleSteve Harley🡆 More