Gwin Brwd

Diod Nadoligaidd ydy gwin brwd (Saesneg: mulled wine).

Fe'i gelwir yn aml yn win cynnes neu'n win poeth. Ceir nifer o amrywiaethau ar y ddiod trwy'r byd i gyd, ond fel arfer defnyddir gwin coch i wneud y ddiod gyda chyfuniad o wahanol berlysiau. Mae'n debyg iawn i feddyglyn.

Gwin Brwd
Gwin brwd

Mewn gwledydd eraill

Glühwein

Mae Glühwein yn boblogaidd mewn gwledydd lle siaredir Almaeneg ac yn ardal Alsace, Ffrainc. Hon yw'r ddiod draddodiadol a yfir yn ystod y Weihnachtsmärkten ("Marchnadoedd adeg y Nadolig"). Fel arfer, defnyddir gwin coch i'w baratoi, ac fe'i cynhesir ynghyd â chanel/sinamon, codenni fanila, sitrws, a siwgr.

Math tebyg iawn o win brwd sy'n boblogaidd yn y Weriniaeth Tsiec ydy svařené víno, sef 'gwin wedi'i ferwi.'

Yng Ngwlad Pwyl, yfir grzane wino ("gwin wedi'i gynhesu") sydd yn debyg iawn i'r ddiod Tsiecaidd.

Yn Rwmania, gelwir gwin brwd yn vin fiert (eto, "gwin wedi'i ferwi"), ond gellir defnyddio naill ai gwin coch neu wyn. Weithiau fe ddefnyddir ffrwyth y pupur du i wneud gwin brwd yn Rwmania.

Yn yr Eidal, mae gwin brwd yn nodweddiadol o ardaloedd gogleddol y wlad ac fe'i gelwir yn vin brûlé.

Rysáit gwin brwd

Ceir cryn dipyn o ryseitiau sy'n sôn am sut mae gwneud gwin brwd, ond fe ddaw'r rysáit isod, o'r enw Gwin Poeth Sbeislyd, o raglen Wedi 3 a 7.

  • 700ml dŵr
  • 110g siwgr brown
  • 1 botel gwin coch
  • 1 oren
  • 1 lemwn
  • 1 ddeilen lawryf
  • 6 chardamom wedi'i malu
  • 6 chlof
  • 1 seren anis
  • 1 ffon canel


1. Rhowch y dŵr a'r siwgr mewn sosban fawr a thoddi'r siwgr dros wres cymhedrol. Clymwch y cardamom, clofs, seren anis, a'r llawryf mewn bag mwslin ac ychwanegu i'r seidr gyda'r ffon canel a gad iddi fwydo am 10 munud.

2. Tynnwch y croen oddi ar y ffrwythau gan osgoi'r gwyn ac ychwanegu i'r dŵr. Arllwyswch y gwin a gad iddo dwymo yn raddol, heb ferwi, am tua 40 munud.

3. Torrwch y ffrwythau yn ddarnau ac ychwanegu i'r gwin cyn ei weini, gyda 150ml o fodca neu frandi os dymunwch.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Gwin Brwd Mewn gwledydd eraillGwin Brwd Rysáit gwin brwdGwin Brwd Gweler hefydGwin Brwd CyfeiriadauGwin BrwdMeddyglynNadoligPerlysieuynSaesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

EmojiCebiche De TiburónAlbert Evans-JonesAlien (ffilm)Rhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd Prydain1809Leondre DevriesNational Library of the Czech RepublicPensiwnOblast MoscfaAnturiaethau Syr Wynff a PlwmsanTyrcegLliwHong CongAfter EarthJava (iaith rhaglennu)OmanSiriCyfraith tlodi25 EbrillMons venerisCwmwl OortAnialwchYsgol Cylch y Garn, LlanrhuddladGregor MendelCymraegJac a Wil (deuawd)Diddymu'r mynachlogyddCuraçaoGwyddbwyllMinskRobin Llwyd ab OwainLady Fighter AyakaAristotelesAfon YstwythYsgol Dyffryn AmanThe Witches of BreastwickTylluanWcráinIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanAgronomegTorfaenMilanCopenhagenEfnysienParisAmgylcheddCilgwriMark HughesSurreyWikipediaEgni hydroLlundainDewi Myrddin HughesGwladoli2024Jim Parc NestOriel Genedlaethol (Llundain)Rhestr mynyddoedd CymruTatenMervyn KingCaerFformiwla 17Amaeth yng NghymruComin WicimediaMetro MoscfaGenwsFaust (Goethe)Gwyddoniadur🡆 More