Athro a chyn-gystadleuydd Big Brother yw Glyn Thomas Wise (ganwyd 9 Ionawr 1988).
Mae'n hanu o Flaenau Ffestiniog a symudodd i Gaerdydd yn 2008 i astudio. Ers 2016 mae'n byw a gweithio yn Shanghai. Bu'n gyflwynydd radio ar BBC Radio Cymru ac yn ymgeisydd gwleidyddol.
Glyn Wise | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1988 Blaenau Ffestiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, athro |
Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, Gwynedd, mynychodd Ysgol y Moelwyn cyn symud i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst lle roedd yn Brif Fachgen. Tra oedd yn yr ysgol, bu'n gweithio fel achubwr bywyd rhan amser yn ei bwll nofio lleol.
Aeth ymlaen i astudio am radd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd gan ennill radd 2:1 yn 2011.
Pan ymddangosodd ar raglen Saesneg Big Brother 7, bu'n aml yn siarad yn Gymraeg â'i gyd-gystadleuydd Imogen Thomas a chyfieithwyd eu sgyrsiau gydag is-deitlau.
Tra yn y tŷ dysgodd Glyn nifer o sgiliau yn y gegin, megis berwi wy - dathlodd hyn drwy ganu cân yn fyrfyr. Dysgodd cyd-gystadleuydd, Richard, ef sut i olchi'i ddillad. Newidiodd ei steil gwallt yn aml tra yn y tŷ, ynghyd â Pete, gan ei gadw'n flêr, ei eillio a'i liwio yn lliwiau gwahanol. Yn y rownd derfynol daeth Glyn yn ail, gyda 38.8% o'r bleidlais.
Yn dilyn ei ymadawiad o'r tŷ, ymddangosodd Glyn ar nifer o raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys ar sianeli S4C a Radio Cymru.
Rhwng 2007 a 2011 roedd yn gyflwynydd rheolaidd ar raglen C2 Radio Cymru, i'w glywed ar yr awyr bob nos Fercher a nos Iau gyda Magi Dodd rhwng 8 a 10 y nos. Mae wedi ymddangos mewn hysbyseb yn y ddwy iaith, yn hybu rhoi gwaed. Animeiddiwyd Glyn ar gyfer cartŵn S4C, Cnex. Cyflwynodd raglen Planed Plant ar 30 Hydref 2006. Ymddangosodd fel mentor ar raglen The Big Welsh Challenge yn 2007, yn dysgu Di Botcher i siarad Cymraeg mewn 12 mis. Roedd Glyn wedi datgan ei awydd i fod yn athro Cymraeg yn nhŷ Big Brother.
Lansiodd Glyn ei lyfr Blwyddyn Fawr Glyn Wise yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2007. Golygwyd y llyfr gan Beca Brown, ac mae'r llyfr yn un hunangofiannol â phwyslais ar ei flwyddyn ers gadael Big Brother.
Yn 2012, cafodd swydd fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhydywaun. Yn 2014, cychwynnodd swydd newydd fel Swyddog Lled Ffurfiol yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a'r Fro. Yn Hydref 2016 aeth i weithio yn Shanghai, Tsieina fel athro Saesneg.
Yn 2015, dewiswyd Glyn fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ar gyfer etholaeth Canol Caerdydd. Daeth yn bedwerydd yn yr etholiad gyda 1,951 (7.5%) o bleidleisiau. Ym mis Awst 2016 cyhoeddodd ei fod wedi penderfynu gadael Plaid Cymru am nad oedd yn rhannu "yr un weledigaeth ar gyfer dyfodol ein gwlad" gyda'r blaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Glyn Wise, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.