Roedd George Essex Evans (18 Mehefin, 1863 –10 Tachwedd, 1909) yn Gymro a daeth y un o feirdd mwyaf poblogaidd Awstralia ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20g.
George Essex Evans | |
---|---|
Ffugenw | Christophus, Coolabah, Drayton |
Ganwyd | 18 Mehefin 1863 Llundain |
Bu farw | 10 Tachwedd 1909 o carreg fustl Toowoomba |
Dinasyddiaeth | Cymru Awstralia |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, ffermwr, golygydd, gwas sifil |
Cyflogwr | |
Tad | John Evans |
Ganwyd Evans yn Llundain yn fab i John Evans QC cyn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Hwlffordd rhwng 1847 a 1852 a Mary Ann merch Titus Owen ei ail wraig. Roedd ei dad yn 68 mlwydd oed pan ganwyd George a bu farw ym mis Hydref 1864 pan oedd George yn 1. Symudodd y teulu yn ôl i Sir Benfro a fu George yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hwlffordd. Symudodd y teulu i Ynys Jersey lle fu George yn ddisgybl yng Ngholeg St James.
Bwriad Evans oedd ymuno a'r fyddin wedi gadael yr ysgol ond dechreuodd mynd yn drwm ei glyw a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r syniad. Gyda ffortiwn y teulu yn dirywio penderfynodd Evans, John ei hanner frawd a'i ddwy hanner chwaer ymfudo i Queensland, Awstralia.
Cafodd y brodyr fferm yn Allora ar y Darling Downs ond anafwyd George mewn damwain farchogaeth a bu’n gweithio fel athro a gohebydd amaethyddol i’r Queenslander. Ym 1883 ymunodd ag alldaith arolygu i wlad y Gwlff, yna ailgydiodd yn ffermio cyn ymuno â'r gwasanaethau cyhoeddus ym 1888 fel beili yn yr Adran Tiroedd. Roedd yn glerc yn y Swyddfa Batentau rhwng 1891-93, yna daeth yn gofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yn Toowoomba.
Wedi dechrau ei yrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus dechreuodd cyhoeddi cerddi yng nghylchgronau Awstralia a Phrydain. Ym 1892 a 1883 golygodd cylchgrawn llenyddol o'r enw The Antipodean ar y cyd a Banjo Paterson, er i'r cylchgrawn gwerthu dros 13 mil o rifau nid oedd yn llwyddiant ariannol. Ceisiodd adfer y cylchgrawn ym 1897 ond methiant fu eto. Rhwng 1902 a 1905 bu'n colofnydd rheolaidd ar gyfer y Darling Downs Gazette a'r Toowoomba Chronicle. Ym 1905 cyhoeddodd papur newydd wythnosol ei hun Rag a barodd am flwyddyn yn unig.
Ym 1891 cyhoeddwyd ei gyfrol barddoniaeth yn Llundain The Repentance of Magdalene Despar and Other Poems. Cyhoeddodd ei ail gyfrol Loraine and Other Verses ym 1898 a The Secret Key and Other Verses ym 1906. Ym 1928 cyhoeddwyd blodeugerdd o'i waith ar ôl ei farwolaeth.
Roedd llawer o ganeuon Evans yn rhai gwladgarol oedd yn canu clodydd Awstralia. Er bod rhai beirniaid fel A. G. Stephens yn cwyno bod ei ganu yn or- syml ac ystrydebol roedd yn boblogaidd ymysg y cyhoedd a bu rhai yn priodoli ei ganu i ran o lwyddiant yr ymgyrch i ffurfio Ffederasiwn Awstralia. Wedi ei farwolaeth dywedodd Alfred Deakin (ei hun o dras Gymreig), Prif Weinidog Awstralia, mae Evans oedd "Bardd Cenedlaethol Awstralia".
Priododd Evans ym 1899, ei wraig oedd Blanch Hopkins (Eglinton cynt) gwraig weddw gyda dau o blant. Bu iddynt un mab.
Bu farw yn Toowoomba o gymhlethdodau a gododd wedi llawdriniaeth am gerrig fustl yn 46 mlwydd oed. Codwyd cofgolofn i'w anrhydeddu yn Toowoomba a chynhelir darlith coffa flynyddol iddo yn y dref. Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo ym 1913 gan H. A. Tardent, The life and poetry of George Essex Evans oedd yn seiliedig ar ei draethawd buddugol am y bardd yn Eisteddfod Brisbane yn gynharach yn y flwyddyn. Mae copi o'r llyfr ar gael i'w ddarllen, heb dal, ar wefan Trove Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article George Essex Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.