Félix Houphouët-Boigny

Gwleidydd a meddyg Iforaidd oedd Félix Houphouët-Boigny (18 Hydref 1905 – 7 Rhagfyr 1993) a wasanaethodd yn Arlywydd y Traeth Ifori am 33 mlynedd, o annibyniaeth y weriniaeth ym 1960 hyd at ei farwolaeth.

Félix Houphouët-Boigny
Félix Houphouët-Boigny
Ganwyd18 Hydref 1905, 16 Hydref 1905 Edit this on Wikidata
N’Gokro Edit this on Wikidata
Bu farw7 Rhagfyr 1993 Edit this on Wikidata
Yamoussoukro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Traeth Ifori Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École normale supérieure William Ponty Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Prif Weinidog Arfordir Ifori, Arlywydd y Traeth Ifori Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratic Party of Côte d'Ivoire – African Democratic Rally Edit this on Wikidata
PriodMarie-Thérèse Houphouët-Boigny Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Teilyngdod Sifil Edit this on Wikidata
llofnod
Félix Houphouët-Boigny

Ganed ef yn Yamoussoukro, Gwladfa'r Traeth Ifori, un o drefedigaethau Ffrainc yng Ngorllewin Affrica, yn fab i benadur cefnog o'r bobl Baoulé. Gweithiodd yn feddyg yng nghefn gwlad, ac enillodd arian hefyd fel perchennog planhigfeydd. Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol ym 1944 pan gyd-sefydlodd y Syndicét Amaethyddol Affricanaidd i gynrychioli planwyr brodorol a oedd yn anfodlon â'r drefn dan y Ffrancod. Cafodd ei ethol yn ddirprwy i gynrychioli etholaeth frodorol y Traeth Ifori a Blaenau'r Folta yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc yn yr etholiadau cyntaf yn y ddwy wladfa honno ym 1945, a fe'i ail-etholwyd y flwyddyn olynol. Yn Ebrill 1946 sefydlodd Houphouët-Boigny Blaid Ddemocrataidd y Traeth Ifori (PDCI), yn gysylltiedig â Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc. Yn sgil cynhadledd yn Bamako, Swdan Ffrengig, yn Hydref 1946, daeth y PDCI yn rhan o Gynulliad Democrataidd Affrica (RDA) a sefydlwyd i gydlynu'r frwydr wleidyddol dros wrthdrefedigaethrwydd ar draws ffederasiynau Gorllewin Affrica Ffrengig ac Affrica Gyhydeddol Ffrengig, a gwasanaethodd Houphouët-Boigny hefyd yn llywydd yr RDA.

Yn niwedd y 1940au trodd y llywodraeth drefedigaethol yn fwyfwy ddrwgdybus o'r PDCI, yn enwedig wedi i'r Blaid Gomiwnyddol gael ei bwrw allan o'r glymblaid Tripartisme ym 1947, a phenderfynodd Houphouët-Boigny dorri ei gysylltiadau â'r comiwnyddion yn Hydref 1950 ac i gydweithio â'r Ffrancod wrth i'w blaid ennill cefnogaeth. Yn y cyfnod o 1956 i 1960, teithiodd yn ôl ac ymlaen rhwng ei famwlad a la Métropole, yn cynrychioli'r Traeth Ifori a Blaenau'r Folta yn y Cynulliad Cenedlaethol ym Mharis ac yn gwasanaethu'n faer Abidjan, yn llywydd y cynulliad trefedigaethol, ac yn arweinydd y PDCI. Er iddo ddod i'r amlwg fel un o'r prif arweinwyr dros annibyniaeth i drefedigaethau Ffrainc yn Affrica, gwrthodai'n gryf y syniad o ffederasiwn yng Ngorllewin Affrica, gan nad oedd am i gael gwledydd tlotach y rhanbarth yn dibynnu ar gymorthdaliadau o economi'r Traeth Ifori. Ym 1958, wedi i'r Arlywydd Charles de Gaulle gynnig refferendwm i ddewis rhwng ffederasiwn neu annibyniaeth, ymgyrchodd Houphouët-Boigny yn llwyddiannus dros hunanlywodraeth, er yn rhan o Gymuned Ffrainc. Fe'i penodwyd yn brif weinidog ym 1959, a datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth y Traeth Ifori yn ffurfiol ar 7 Awst 1960. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 3 Tachwedd, gan sefydlu llywodraeth arlywyddol, ac ar 27 Tachwedd 1960 etholwyd Houphouët-Boigny yn arlywydd cyntaf y Traeth Ifori.

O'r cychwyn, rhoes polisïau rhydd-fenter ar waith, gan ryddfrydoli'r economi a datblygu amaethyddiaeth y wlad. Byddai'r pwyslais hwn ar gnydau gwerthu yn wahanol i nifer o wledydd newydd-annibynnol eraill Affrica, a geisiodd ddiwydiannu dan reolaeth y wladwriaeth. Dan ei arweiniad, daeth y Traeth Ifori yn un o brif allforwyr coco, coffi, pîn-afalau, ac olew palmwydd. Croesawodd fuddsoddiad tramor, a chyflogwyd miloedd o dechnegwyr a rheolwyr o Ffrainc i gynorthwyo datblygiad economaidd. Erbyn y 1980au, y Traeth Ifori oedd un o wledydd cyfoethocaf Affrica, a gelwid ffyniant economaidd y wlad yn "y gwyrth Iforaidd".

Hyd at 1990, gwladwriaeth un-blaid oedd y Traeth Ifori, ac yr oedd yn rhaid i bob oedolyn yn y wlad fod yn aelod o'r PDCI. Fe'i ail-etholwyd yn arlywydd heb wrthwynebiad ym 1965, 1970, 1975, 1980, a 1985. Fodd bynnag, unben pragmataidd ydoedd, a cheisiodd dawelu unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol i'w rym drwy gydweithio, consensws, a chyfaddawdu. Yn Hydref 1990, cynhaliwyd etholiad arlywyddol am y tro cyntaf gyda gwrthwynebydd, Laurent Gbagbo o'r Ffrynt Poblogaidd Iforaidd. Enillodd Houphouët-Boigny unwaith eto, gyda 82% o'r bleidlais, a thair mlynedd yn ddiweddarach bu farw yn Yamoussoukro yn 88 oed.

Cyfeiriadau

Tags:

18 Hydref190519937 RhagfyrArlywydd y Traeth IforiIforiaid

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Wuthering HeightsOld HenryGeraint JarmanOriel Gelf GenedlaetholSSŵnamiVitoria-GasteizCynnyrch mewnwladol crynswthEtholiad Senedd Cymru, 2021Tver1977SaltneyDirty Mary, Crazy LarryAnhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwyddVox Lux1809fietnamY CeltiaidKylian MbappéAlldafliadUsenetSeiri RhyddionBlaenafonMici PlwmRichard ElfynAlbaniaZulfiqar Ali BhuttoLlanw LlŷnTony ac AlomaRichard Wyn JonesEtholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng NghymruDiddymu'r mynachlogyddSue Roderick1980PalesteiniaidMean MachineMetro MoscfaRhifBudgieDenmarcErrenteriaSwleiman ICrac cocênArchdderwyddFfenolegAsiaY Deyrnas UnedigMy MistressCefnfor yr IweryddTŵr EiffelOmorisaYr HenfydYsgol RhostryfanXxLlywelyn ap GruffuddRhufainAnna Gabriel i SabatéMinskKumbh Mela9 Ebrill24 MehefinTsiecoslofaciaDinasComin WicimediaRhifau yn y GymraegHTMLTrydanNaked SoulsTeotihuacánMao ZedongRhyw geneuol🡆 More