Ffeminist Americanaidd oedd Frances Harper (24 Medi 1825 - 22 Chwefror 1911) sy'n cael ei hystyried yn: nofelydd, bardd, darlithydd, swffraget ac yn fam i newyddiaduraeth Affricanaidd-Americanaidd.
Frances Harper | |
---|---|
Ganwyd | Frances Ellen Watkins 24 Medi 1825 Baltimore, Maryland |
Bu farw | 22 Chwefror 1911 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | nofelydd, bardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, darlithydd, awdur storiau byrion, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Adnabyddus am | Iola Leroy |
Gwobr/au | Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland |
llofnod | |
Ysgrifennai am gaethiwed a diddymiad caethwasiaeth, hawliau dynol ac urddas, hawliau a chydraddoldeb menywod, cyfiawnder hiliol a chymdeithasol, trais yn y lluoedd arfog, hawliau pleidleisio (etholfraint), moesoldeb, hunangymorth hiliol, a chydweithrediad rhwng gwledydd. Roedd hi'n weithgar mewn diwygio cymdeithasol ac roedd yn aelod o Undeb Dirwestol y Cristion Benywaidd, a oedd yn argymell bod y llywodraeth ffederal yn chwarae rhan mewn diwygio a gwella cymdeithas.
Fe'i ganed yn ferch rydd, yn Baltimore, Maryland, Unol Daleithiau America ar 24 Medi 1825; bu farw yn Philadelphia. Yn 67 oed, ysgrifennodd y clasur o nofel Iola Leroy (1892).
Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, sef cyfrol o farddoniaeth, pan oedd yn ugain oed, gan ei gwneud yn un o awduron Affro-Americanaidd cyntaf. Yn 1851, gyda William Still, cadeirydd Cymdeithas Diddymu Caethwasiaeth Pennsylvania, cynorthwyodd llawer o gaethweision a oedd wedi dianc o'u 'perchnogion' i ryddid yng Nghanada. Cychwynodd ei gyrfa fel siaradwr ac ymgyrchydd gwleidyddol, yn syth wedi iddi ymuno â Chymdeithas America yn Erbyn Caethwasiaeth yn 1853.
Y llyfr a werthodd fwya ganddi oedd Poems on Miscellaneous Subjects (1854) a'i stori fer "Two Offers" oedd y gyntaf gan fenyw ddu.
Sefydlodd, cefnogodd a chynhaliodd Harper swyddi mewn sawl sefydliad cenedlaethol blaengar. Yn 1883 daeth yn uwcharolygydd yn yr Adran Lliw o Undeb Dirwestol Cristnogol Menywod Philadelphia a Pennsylvania. Yn 1894 cyd-sefydlodd Cymdeithas Genedlaethol y Menywod Lliw (*National Association of Colored Women) a bu'n is-lywydd o'r gymdeithas honno.
Bu farw Harper yn 85 oed ar Chwefror 22, 1911, naw mlynedd cyn i fenywod gael yr hawl i bleidleisio.
Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Clybiau Merched Duon am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Frances Harper, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.