Ardal hanesyddol yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen ar lannau Geneufor yr Almaen yw Ffrisia.
Heddiw fe'i rhennir yn Fryslân yn yr Iseldiroedd ac Ostfriesland a Nordfriesland yn yr Almaen. Ffrisia yw mamwlad y Ffrisiaid, sy'n siarad yr iaith Ffriseg.
Rhennir Ffrisia yn dri rhanbarth: Gorllewin Ffrisia yng ngogledd yr Iseldiroedd, Gogledd Ffrisia yng ngogledd yr Almaen ar orynys Jutland, a Dwyrain Ffrisia yng ngogledd orllewin yr Almaen. Mae Ynysoedd Ffrisia yn ymestyn ar draws y tri rhanbarth.
Mae ardal Gorllewin Ffrisia heddiw yn cyfateb i dalaith Fryslân yn yr Iseldiroedd. Mae'r iaith Ffriseg yn gryf yn yr ardal hon: yn 2007 roedd 74% yn gallu siarad yr iaith, 75% yn medru ei darllen, a 25% yn medru ei hysgrifennu. Mae chwaraeon gaeafol yn boblogaidd yng Ngorllewin Ffrisia, yn enwedig Fierljeppen a sglefrio iâ. Mae'r ardal yn fyd-enwog am y fuwch Ffrisiaidd a'r ceffyl Ffrisiaidd. Ymhlith prif drefi Gorllewin Ffrisia mae Franeker (Ffriseg: Frjentsjer), Harlingen (Harns), Het Bildt (It Bilt), Heerenveen (It Hearrenfean), Leeuwarden (Ljouwert), Smallingerland (Smellingerlân), a Sneek (Snits).
Mae Gogledd Ffrisia (Almaeneg: Nordfriseland) heddiw yn rhan o dalaith Schleswig-Holstein yn yr Almaen. Yn hanesyddol mae dwy ardal i Ogledd Ffrisia: yr ardal gyfandirol ar orynys Jutland, a'r ardal sy'n cynnwys nifer o ynysoedd a gorynysoedd bychain gan gynnwys Söl, Feer, Öömrang, a Noordströön. Hyd 1864 roedd Gogledd Ffrisia yn rhan o Ddenmarc. Cafodd ei choncro gan yr Almaen a'i gwneud yn dair ardal: Südtondern, Husum, ac Eiderstedt. Unwyd y tair ardal ym 1970. Mae hanes y Ffrisiaid yn yr ardal hon yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 700. Siaredir Ffriseg yn frodorol gan 10,000 o drigolion Gogledd Ffrisia, a Mooringer Frasch yw'r brif dafodiaith. Ymhlith prif drefi Gogledd Ffrisia mae Wyk auf Föhr (Bi de Wik), Bredstedt (Bräist), Husum (Hüsem), Niebüll (Naibel), a Sylt (Söl).
Roedd Dwyrain Ffrisia yn dywysogaeth hunanlywodraethol hyd 1744. Mae pedair ardal gan Ddwyrain Ffrisia: Auerk, Emden, Lierre, a Wittmund. Mae ardaloedd Freesland, Wilhelmshaven ac Ammerland hefyd yn hanesyddol yn rhan o diriogaeth Ffrisia. Mae 700,000 o bobl yn byw yn Nwyrain Ffrisia. Ceir hefyd siaradwyr Ffriseg yn Saterland sy'n siarad y Saterlandeg. Prif iaith arall yr ardal yw tafodiaith Ffrisiaidd yr Isel Almaeneg. Mae diwylliant te cryf gan drigolion yr ardal hon, a Boßeln yw'r fabolgamp draddodiadol. Ymhlith prif drefi Dwyrain Ffrisia mae Ammerland, Aurich (Isel Almaeneg: Auerk), Emden, Leer, Norden (Nörden), Bad Zwischenahn (Twüschenahn), Wilhelmshaven (Willemshaven), Weener, Westerstede (Westerstäe), a Wittmund, ac yn Saterland Ramsloh (Saterlandeg: Roomelse), Scharrel (Schäddel), Sedelsberg (Seedelsbierich), a Strücklingen (Strukelje).
Ymhlith y pleidiau gwleidyddol rhanbarthol sy'n ymgyrchu dros gynrychiolaeth i'r Ffrisiaid yw Fryske Nasjional Partij (Y Blaid Genedlaethol Ffrisiaidd), De Friezen/Ddie Friesen (Y Ffrisiaid), Partij voor het Noorden (Plaid y Nordwyr), a Südschleswigsche Wählerverband (Undeb Schleswig y De).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffrisia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.