Mae'r Ffesant Amherst (Chrysolophus amherstiae ) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod, yn urdd y Galliformes.
Ffesant Amherst | |
---|---|
Ceiliog Ffesant Amherst | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasianidae |
Genws: | Chrysolophus |
Rhywogaeth: | C. amherstiae |
Enw deuenwol | |
Chrysolophus amherstiae Leadbeater, 1829 |
Fe'i ceir yn ardaloedd mynyddig de-orllewin Tsieina a Myanmar, ond mae rhai poblogaethau wedi eu sefydlu eu hunain mewn rhannau eraill o'r byd.
Mae'r Ffesant Amherst yn aderyn gweddol fawr, gyda'r ceiliog yn 100–120 cm o hyd, gyda'r gynffon hir yn gyfrifol am 80% o hyn. Gan fod y ceiliog yn aderyn lliwgar iawn, mae'r rhywogaeth yn boblogaidd mewn casgliadau adar. Nid yw'r iar mor lliwgar, ac mae'n weddol debyg i iar Ffesant cyffredin.
Mae'r Ffesant Amherst yn byw mewn coedwigoedd trwchus, ac oherwydd hyn gall fod yn anodd ei weld.Eu prif fwyd yw grawn a phryfed. Gwell ganddynt redeg ar hyd y llawr na hedfan, ond gallant hedfan yn dda ac yn gyflym pan fydd rhaid. Mae'n perthyn yn agos i'r Ffesant euraid.
Hyd yn diweddar, roedd poblogaeth o'r rhywogaeth yma wedi eu sefydlu eu hunain ger Pentre Helygain yn Sir y Fflint, ond credir bod y boblogaeth wedi diflannu bellach.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffesant Amherst, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.