Ffair hynafol a gynhelir i werthu mêl yw Ffair Fêl Conwy.
Fe gynhelir yn flynyddol ar y 15fed o Fedi yn nhref Conwy yn Sir Conwy, gogledd Cymru, a hynny ers dros 700 mlynedd.
Sefydlwyd y ffair fêl dan siarter Bwrdeisdref Aberconwy ar ddiwedd y 13g, yn nheyrnasiad Edward I o Loegr, er mwyn galluogi Cymry lleol i werthu mêl yn y dref gaerog honno a hynny ar adeg pan oedd yn fwrdeistref Seisnig. Cofnodir anfon "pibell o fêl" o Aberconwy i Gastell Rhuddlan; cost y cludiant oedd 1 swllt 4 ceiniog.
Cymreigwyd y dref - a'r ffair - gyda'r blynyddoedd. Yn 1835 cofnodwyd bod llewyrch ar y Ffair Fêl ac yn 1911 cofnowyd ei bod yn un o ddeg ffair flynyddol a gynhelid yng Nghonwy; o'r deg hynny dim ond y Ffair Fêl a Ffair Hadau Conwy sy'n dal i fynd heddiw.
Bu bron iawn i'r ffair ddarfod yn 1983 yn dilyn cyfres o hafau gwael i wenynwyr lleol ond cymerodd Cyngor Tref Conwy yr awennau ac achubwyd y ffair. Ers 1990 trefnir y ffair gan Gymdeithas Gwenynwyr Conwy gyda'r elw yn mynd at yr elusen Gymreig Bees for Development. Ceir stondinau crefft a chynnyrch lleol arall yn ogystal â stondinau mêl.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffair Fêl Conwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.